Neidio i'r cynnwys

Daniel Evans (actor)

Oddi ar Wicipedia
Daniel Evans
GanwydDaniel Gwyn Evans
31 Gorffennaf 1973 Edit this on Wikidata
y Rhondda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materYsgol Gerdd a Drama y Guildhall
Galwedigaethactor llwyfan, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, actor mewn theatr gerdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PerthnasauSera Evans chwaer
Gwobr/auGwobrau Laurence Olivier Edit this on Wikidata

Actor, bardd a chyfarwyddwr theatr o'r Rhondda yw Daniel Evans neu Daniel Gwyn Evans (ganwyd 31 Gorffennaf 1973). Enillodd Y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Taf Elai 1991 ac ef oedd enillydd cyntaf Gwobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni ym 1990, pan oedd yn 17 oed,[1] ac wedyn Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn ym 1992. Enillodd ddwy Wobr Olivier am bortreadu cymeriadau ar lwyfannau Llundain, cyn troi ei law at gyfarwyddo. Wedi cyfnodau fel Cyfarwyddwr Artistig ar Theatr y Crucible a Grŵp Theatrau Sheffield a Theatr Gŵyl Chichester, mae o bellach [ers 2023] yn Gyd-Gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company. Mae'n frawd i'r aelod Seneddol Sera Evans.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Evans actio yn ifanc iawn, gan ddechrau cystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd pan oedd yn 5 neu 6 oed, yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o gynyrchiadau amatur.[2] Sylweddolodd beth hoffai wneud mewn bywyd pan oedd yn 8 oed, a pharhaodd y diddordeb mewn drama tra'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen (bellach Ysgol Gyfun Gartholwg) ger Pontypridd, ysgol cyfrwng Cymraeg sy'n wedi meithrin sgiliau nifer o actorion. Bu'n rhan blaenllaw mewn nifer o gynyrchiadau'r ysgol, gan gynnwys dramâu cerdd fel Kitch yn ogystal â bod yn aelod o Gwmni Theatr yr Urdd.

Gyrfa llwyfan

[golygu | golygu cod]

Fe hyfforddwyd Evans yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall rhwng 1991 a 1994,[3] ond ymunodd â'r Royal Shakespeare Company cyn cwblhau ei gwrs.[4] Yn y RSC cafodd rannau bach yn Coriolanus a Henry V,[4] cyn portreadu Lysander yng nghynhyrchiad Adrian Noble o A Midsummer Night's Dream wrth iddynt deithio yn Efrog Newydd ac ar Broadway.

Bu'n aelod o'r cast a lwyfannodd y ddrama ddadleuol Cardiff East gan y Cymro Peter Gill, yn y Theatr Genedlaethol Frenhinol ym 1997,[3] a'r brif ran yn Peter Pan,[5] gyda Ian McKellen. Wedi ei gyfarwyddo gan Trevor Nunn, ymddangosodd yn The Merchant of Venice a Troilus and Cressida,[3] a fe'i gastiwyd fel yr arwr yn yr opereta Candide,[4] gyda'r actor Simon Russell Beale. Dyma ei rôl gyntaf fel canwr, a chafodd ei enwebu yn 2000 ar gyfer Gwobr Laurence Olivier am yr Actor Gorau mewn Sioe Gerdd.[3]

Yn ogystal â gwaith Shakespeare a'r theatr draddodiadol, bu Evans mewn nifer o ddramâu arbrofol. Yn Theatr y Royal Court, cyflwynodd ddwy ddrama newydd gan Sarah Kane: Cleansed a 4.48 Psychosis.[3][4]

Ar ôl llwyddiant Candide, castiwyd Evans mewn rhan gerddorol arall, sef y ddrama gerdd Merrily We Roll Along gan Stephen Sondheim, ac fe enillodd Wobr Laurence Olivier am yr Actor Gorau mewn Drama Gerdd (2001).[3][6]

Gan ddychwelyd at Shakespeare, fe bortreadodd Ariel yng nghynhyrchiad Michael Grandage o Y Dymestl yn Theatr y Crucible Sheffield, gyda Derek Jacobi fel Prospero,[7] ac yna Measure for Measure a Cymbeline gyda'r RSC[3][4]

Yn Nhachwedd 2005, cafodd y brif ran yn y ddrama gerdd Sunday in the Park with George gan Sondheim, yng nghynhyrchiad y Menier Chocolate Factory.[8] Trosglwyddwyd y sioe i'r Wyndham's Theatre lle parhaodd tan mis Medi 2006. Cipiodd y cynhyrchiad bum gwobr Olivier,[6] yn cynnwys yr Actor Gorau mewn Drama Gerdd i Evans. Teithiwyd y cynhyrchiad i Studio 54, ar Broadway, Efrog Newydd, lle cawsant 9 enwebiad am Wobrau'r Tony, gan gynnwys Evans fel y prif actor mewn drama gerdd.[3]

Gyrfa ffilm a theledu

[golygu | golygu cod]

Cychwynodd ei yrfa drwy gyfranu i gyfresi ar S4C fel cameo yn y ffilm Nel a lleisio cyfresi animeiddio megisCnafon Coed (2001, Byd Bach Bedwyr (2003) ac Y Dywysoges Fach (2007).

Gweithiodd yn helaeth gyda'r BBC ar ddramâu cyfnod, gan gynnwys Great Expectations (1989) gyda Ioan Gruffudd, cyfres Daniel Deronda a chyfres The Virgin Queen gyda Anne-Marie Duff.[3] Bu hefyd yn y cyfresi Spooks, Dalziel and Pascoe a Midsomer Murders.[3] Bu hefyd yn y gyfres Doctor Who mewn rhifyn arbennig yn ystod Nadolig 2005 lle cyflwynwyd David Tennant fel y Degfed Doctor.[9]

Gyrfa cyfarwyddo

[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd Evans fel cyfarwyddwr yn 2005 drwy gyfarwyddo dwy o ddramâu Peter Gill: Lovely Evening a In the Blue.[8] Dilynwyd hynny gyda chynhyrchiad o Esther i Theatr Genedlaethol Cymru yn 2006.[10]

Yn 2007, fe ddychwelodd Evans i Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall i gyfarwyddo cynhyrchiad gyda'r myfyrwyr o Certain Young Men gan Peter Gill, gyda chast o wyth.[11] Yn dilyn hynny, cafodd ei benodi fel olynydd i Samuel West fel cyfarwyddwr creadigol Theatrau Sheffield. Cychwynodd ar ei waith yn Sheffield wedi adnewyddu Theatr y Crucible, gyda'i dymor cyntaf yn Chwefror 2010.[12]

Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr artistig Theatr Gŵyl Chichester yn 2015 a bu yno tan 2022, cyn ei benodi yn Gyd-Gyfarwyddwyr Artistig y Royal Shakespeare Company yn 2022.

Mae o hefyd wedi cyfarwyddo cynyrchiadau o'r ddrama The Full Monty gan Simon Beaufoy,[13] a'r ddrama American Buffalo yn y Wyndham's Theatre.[14]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae Evans wedi datgan yn gyhoeddus ei fod hoyw ac wedi bod allan trwy gydol ei yrfa.[15] Wrth gael ei gyfweld gan The Daily Telegraph yn 2014, dywedodd nad oedd pethau'n hawdd yn ei ieuenctid, ac fe gafodd ei fwlio yn yr ysgol: "Doedd e ddim yn cael ei ganiatáu pan dyfes i fyny. Roedd hi'n ddiwylliant macho iawn."[16]

Yn 2011, mewn cyfweliad gyda The Guardian, fe ddatgelodd ei fod, yn ei lencyndod, yn dianc drwy "fynd ar deithiau bws a threnau i Stratford" i wylio cynyrchiadau RSC. Wrth sôn am ei fagwraeth yng Nghymru, dywedodd Evans, "Mae fy nheulu yn byw yno i gyd. Roedden nhw'n rhyddfrydol iawn, diolch byth, ac yn dal i fod. Fe wnaethon nhw fy annog i".[17]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Ffilm
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1990 Nel S4C
1996 A Midsummer Night's Dream Lysander
1997 Cameleon Elfed Davies
1997 Be Brave Lawrence Gwobr BAFTA am Ffilm Gorau
Enwebwyd—Gwobr BAFTA am Actor Gorau
1998 The Barber of Siberia Andrew McCracken (mewn masg)
2002 Tomorrow La Scala! Jonny Atkins
2003 Y Mabinogi Manawydan (Dan)
2003 Dal: Yma/Nawr dyn dan artaith (Y Gododdin)
2008 The Ramen Girl Charlie
2012 Les Misérables Pimp (Montreuil-sur-mer)
Teledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1987 Eye of the Dragon Robin Richards Cyfres teledu
1987 Dramarama Anhysbys Pennod: "A Spirited Performance"
1995 Soldier Soldier LCpl Alun Griffiths Pennod: "The Army Game"
1999 Great Expectations Herbert Pocket Ffilm deledu
2000 Doctors Jason Bridger Pennod: "All That Glitters"
2001 Love in a Cold Climate Cedric Cyfres deledu
2001 The Vice Aaron Multiple Guest Arc
– "Force of Nature"
– "Falling"
2001 Being Dom Joly Actor Ffilm a Hysbysebion Ffilm deledu
2002 Helen West Daniel Maley Pennod: "Deep Sleep"
2002 Daniel Deronda Mordecai Multiple Guest Arc
– "Pennod #1.2"
– "Pennod #1.3"
2004 Carrie's War Frederic Evans Ffilm deledu
rhestrwyd fel Daniel Roberts
2004 Spooks Defence QC Pennod: "Persephone"
2004 To the Ends of the Earth Parson Colley Pennod: "Rites of Passage"
2005 Doctor Who Danny Llewellyn Pennod: "The Christmas Invasion"
2005 Dalziel and Pascoe Rob Miclean Multiple Guest Arc
– "Houdini's Ghost: Part 1"
– "Houdini's Ghost: Part 2"
2006 The Virgin Queen Robert Cecil Pennod: "Episode #1.4"
2007 Midsomer Murders David Mostyn Pennod: "Death and Dust"
2008 The Passion Matthew Cyfres deledu

Rolau trosleisio

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Daniel Evans: Richard Burton 'yn arwr i fi'". BBC Cymru Fyw. 2025-11-21. Cyrchwyd 2026-07-01.
  2. ↑ Cyfweliad Ticketmaster â Daniel Evans Archifwyd 2009-08-14 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 07-03-2009
  3. 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 "Hamilton Hodell – Daniel Evans". Hamilton Hodell. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 1 Mawrth 2008.
  4. 1 2 3 4 5 "BBC – Wales – Daniel Evans Interview". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-14. Cyrchwyd 1 Mawrth 2008.
  5. ↑ "National Theatre: Peter Pan (1997 production)". Royal National Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-14. Cyrchwyd 1 Mawrth 2008.
  6. 1 2 "Laurence Olivier Awards: Past Winners". Official London Theater Guide. Cyrchwyd 2 Mawrth 2008.
  7. ↑ Wolf, Matt (23 Ionawr 2003). "Theatre Review: The Tempest". Variety. Cyrchwyd 2 Mawrth 2008.
  8. 1 2 "Our Patron - London Young Sinfonia". London Young Sinfonia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 10 Mawrth 2015.
  9. ↑ Lyon, Shaun (15 Medi 2005). "TV Series Update". Outpost Gallifrey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-09. Cyrchwyd 2 Mawrth 2008.
  10. ↑ "The Big Interview: Daniel Evans". Official London Theatre Guide. 18 Mai 2006. Cyrchwyd 2 Mawrth 2008.
  11. ↑ "Guildhall School of Music & Drama: Acting Graduates include..." Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-27. Cyrchwyd 11 Mehefin 2008.
  12. ↑ Higgins, Charlotte (8 Ebrill 2009). "Daniel Evans takes the reins at Sheffield Theatres". London: The Guardian. Cyrchwyd 4 Awst 2009.
  13. ↑ "Stripped of its integrity by a Broadway musical, The Full Monty is back on the British stage again – and it's more revealing than ever". dailymail.co.uk. Daily Mail. 8 Chwefror 2013. Cyrchwyd 24 Mawrth 2014.
  14. ↑ Mitford, Oliver."Damian Lewis soon to appear on stage in American Buffalo" Best of Theatre, 8 Ionawr 2015
  15. ↑ Raymond, Gerald (19 Mehefin 2008). "Breaking the Mold". Backstage. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-27. Cyrchwyd 1 Medi 2008.
  16. ↑ "Daniel Evans interview: the man who brought hot stuff to Sheffield". Telegraph.co.uk. 7 Chwefror 2014. Cyrchwyd 31 Ionawr 2015.
  17. ↑ Jay Rayner. "Daniel Evans: 'I'm proud of my connection with Stephen Sondheim'". The Guardian. Cyrchwyd 31 Ionawr 2015.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]