Neidio i'r cynnwys

Sera Evans

Oddi ar Wicipedia
Sera Evans
Llun Swyddogol, 2026
Aelod o'r Senedd
ar gyfer Afan Ogwr Rhondda
Deiliad
Cychwyn y swydd
8 Mai 2026
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd yr etholaeth
Cynghorydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Treorci
Deiliad
Cychwyn y swydd
1 Mai 2008
Manylion personol
GanedMawrth 1982 (44 oed)[1][2]
Cwmparc
Plaid gwleidyddolPlaid Cymru

Gwleidydd o Gymru yw Sera Evans sy'n Aelod o’r Senedd (AS) dros Afan Ogwr Rhondda ar ran Plaid Cymru ers mis Mai 2026,[3] ac yn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dros Dreorci ers 2008.[4] Mae hi'n chwaer i'r actor a'r cyfarwyddwr Daniel Evans.

Bywyd cynnar a gyrfa academaidd

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Evans yng Nghwmparc, Treorci.[5] Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Ysgol Gyfun Cymer Rhondda a Phrifysgol Rhydychen.[5] Derbyniodd gradd Bagloriaeth a gradd Meistr mewn ieithoedd modern ac ieithyddiaeth.[6] Mae hefyd wedi derbyn dystysgrif addysg i raddedigion.[6] Ar adeg dod yn aelod o'r Senedd roedd hi'n gweithio ym Mhrifysgol De Cymru fel Cyfarwyddwr Cyswllt Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr y Deyrnas Unedig.[7]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Etholwyd Evans i gynrychioli ward Treorci yn etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2008 yn 26 oed.[5] Ail-etholwyd hi yn 2012, 2017, a 2022.[8] Mae hi wedi gwasanaethu fel cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Chynhwysiant.[9]

Safodd dros etholaeth Rhondda yn etholiadau Cynulliad Cymru yn 2011.[5]

Yn 2025, gosodwyd Evans yn gyntaf ar restr Plaid Cymru ar gyfer etholaeth newydd Senedd Afan Ogwr Rhondda.[10][11] Cafodd ei hethol i'r Senedd ar 8 Mai 2026.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae Evans yn byw yn Nhreorci gyda dau fab, un sydd gydag awtistiaeth.[12][6] Dywedodd yn Awst 2026 bod hi'n teimlo'n 'dorcalonnus' cyn y cyfnod clo ar Ãīl i'w mab symud o'r ysgol gynradd cyfwng Cymraeg i ysgol Saesneg. Roedd hyn oherwydd diffyg darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol digonol yn yr ysgol Gymraeg.[13]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "CPlaid's newest face for Rhondda". WalesOnline (yn Saesneg). 2013-03-22. Cyrchwyd 2026-05-26.
  2. ↑ "Sera Myfanwy EVANS-FEAR". Companies House (yn Saesneg). 2026-06-02. Cyrchwyd 2026-06-02.
  3. ↑ Mosalski, Ruth (8 May 2026). "Afan Ogwr Rhondda election results in full: Labour clings on to the sixth seat as Plaid win constituency". Wales Online. Cyrchwyd 2026-05-08.
  4. ↑ "Councillor details - Councillor Sera Evans". Rhondda Cynon Taf County Borough Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-10-09. Cyrchwyd 2026-01-16.
  5. 1 2 3 4 walesonline (2013-03-22). "Plaid's newest face for Rhondda". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-01.
  6. 1 2 3 "Sera Evans AS". senedd.cymru. Cyrchwyd 2026-08-26.
  7. ↑ Wales, Prifysgol De Cymru. "Llwyddiant i PDC yng Ngwobrau HEIST 2025". Prifysgol De Cymru. Cyrchwyd 2026-06-01.
  8. ↑ "Treorchy Ward - Rhondda Cynon Taf County Borough". Local Elections Archive Project. Cyrchwyd 2026-01-16.
  9. ↑ "Councillor Sera Evans - Education & Inclusion Scrutiny Committee - Chair's Blog". Rhondda Cynon Taf County Borough Council. Cyrchwyd 2026-05-10.
  10. ↑ Shipton, Martin (2025-11-21). "Plaid Cymru releases list of Senedd candidates". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-16.
  11. ↑ "Etholiad Senedd 2026: Pwy yw'r ymgeiswyr?". newyddion.s4c.cymru. 2026-06-03. Cyrchwyd 2026-06-03.
  12. ↑ "AS wedi teimlo'r angen i dynnu ei mab awtistig o addysg cyfrwng Cymraeg". BBC Cymru Fyw. 2026-08-25. Cyrchwyd 2026-08-26.
  13. ↑ "AS wedi teimlo'r angen i dynnu ei mab awtistig o addysg cyfrwng Cymraeg". BBC Cymru Fyw. 2026-08-25. Cyrchwyd 2026-08-26.