Neidio i'r cynnwys

Theatr y Crucible

Oddi ar Wicipedia
Theatr y Crucible
Enghraifft o:theatr, lleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Deunyddconcrit cyfnerthedig, metel dalennog Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Rhan oSheffield Theatres Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1969 Edit this on Wikidata
LleoliadTudor Square Edit this on Wikidata
PerchennogSheffield Theatres Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Sheffield Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sheffieldtheatres.co.uk/whats-on/crucible-theatre Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02417v edit this on wikidata
QuoraCrucible-theatre edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Theatr yn Sheffield, De Swydd Efrog yw Theatr y Crucible, neu'n syml The Crucible, a agorodd ym 1971. Cyfeiria'r enw at ddur croeslin, a ddatblygwyd yn Sheffield ym 1740 ac a ysgogodd ddiwydiannu'r ddinas.

Yn ogystal â llwyfannu perfformiadau theatrig rheolaidd, mae'r theatr hefyd yn gwasanaethu fel lleoliad chwaraeon, ar ôl cynnal Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn flynyddol ers 1977. Mae papur newydd y Guardian wedi galw'r Crucible yn "gartref ysbrydol snwcer".[1]

Ym mis Mai 2022, datgelwyd cynlluniau arfaethedig i adeiladu lleoliad newydd â 3,000 o seddi gerllaw gyda phont yn cysylltu'r ddau adeilad.[2]

Mae nifer o Gymry amlwg wedi perfformio ar lwyfan y theatr, ac yn gweithio yno fel Phil Clark a Peter Gill. Bu Daniel Evans yn gyfarwyddwr artistig yno rhwng 2010 a 2016.[3]

Arweinyddion artistig

[golygu | golygu cod]
  • Colin George (1971– 1974)[4]
  • Peter James (1974 – 1981)[5]
  • Clare Venables (1981 – 1992)[6]
  • Michael Rudman (1992 – 1994)[7]
  • Deborah Paige (1995 – 2000)[8]
  • Michael Grandage (2000 – 2005)[9]
  • Samuel West (2005 – 2007)[10]
  • Daniel Evans (2010 – 2016)[3]
  • Robert Hastie (2016 – 2024)
  • Elizabeth Newman (2024 – presennol)

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd Theatr y Crucible gan M. J. Gleeson a'i hagor yn swyddogol ym 1971.[11] Fe ddisodlodd Gwmni Theatr Repertory Sheffield, oedd wedi'i lleoli yn Townhead Street yn y Sheffield Playhouse. Ym 1967, argymhellodd cyfarwyddwr artistig sefydlol y Crucible, Colin George, y byddai llwyfan ymwthiol yn gweddu i Sheffield, wedi'i ysbrydoli gan theatrau a grëwyd gan Syr Tyrone Guthrie. Cafodd Tanya Moiseiwitsch, oedd wedi bod yn rhan o ddylunio theatrau Guthrie, ei recriwtio i gynorthwyo dylunio theatr Gleeson. [12]

Adeiladwyd y Theatr ar gyn-safle Gwesty'r Adelphi, a gaeodd ym mis Mai 1969 ac a ddymchwelwyd yn fuan wedyn.[13] [14] Cyflogwyd y penseiri Renton Howard Wood Levin Architects, ac fe'i cwblhawyd mewn dwy flynedd, gan agor yn swyddogol ym mis Tachwedd 1971. Ymysg y cynyrchiadau cyntaf roedd Swansong gan Anton Chekhov, gydag Ian McKellen ac Edward Petherbridge.

2007 – 2010

[golygu | golygu cod]
Cystadlaethau Snwcer yn Sheffield yn 2013

Fel Adeilad rhestredig II, bu'n rhaid adnewyddu'r Theatr rhwng 2007 a diwedd 2009, ar gôst o £15 miliwn, gan ail-agor yn unig yn ystod y cyfnod hwnnw ar gyfer Pencampwriaethau Snwcer y Byd 2008 a 2009.[15] [16] Ailagorwyd y Crucible fel theatr ar 11 Chwefror 2010 o dan arweinyddiaeth y Cymro Daniel Evans, gyda chynhyrchiad o An Enemy of the People gan Henrik Ibsen. Ar y 18 Chwefror, cafodd ei hagor yn swyddogol gan y Tywysog Edward.[17]

Theatrau Sheffield

[golygu | golygu cod]

Ers ei hail-agor, mae'r Crucible bellach yn ran o Grŵp Theatrau Sheffield sy'n cynnwys y Playhouse llai a Theatr y Lyceum gyferbyn â hi. Theatr gynhyrchu yw'r Crucible lle mae sioeau'n cael eu cynllunio a'u hymarfer yn fewnol, ac felly mae'r grŵp yn goruchwylio'r cynyrchiadau teithiol sy'n ymweld â'r ddinas.

Cyn ac ar ôl yr adnewyddu
Ebrill 2005
Gorffennaf 2010

2022 hyd y presennol

[golygu | golygu cod]

Ym mis Mai 2022, datgelwyd cysyniadau arfaethedig ar gyfer lleoliad newydd ar gyfer Pencampwriaeth Snwcer y Byd a fyddai'n gysylltiedig wrth adeilad presennol Theatr y Crucible, drwy gyfrwng pont. Gallai'r lleoliad newydd gynnal hyd at 3,000 o wylwyr.[18] Roedd hyrwyddwr snwcer Barry Hearn wedi cadarnhau bod trafodaethau ar y gweill gyda Chyngor Dinas Sheffield ym mis Ebrill 2022. Ychwanegodd Hearn y gallai'r twrnamaint symud i rywle arall os na chaiff y prosiect newydd ei gefnogi ond, "mae'r enw Crucible yn gyfystyr â snwcer yn fyd-eang". ... felly mae'n rhaid i'r enw aros." [19] Crëwyd y cysyniadau ar gyfer yr adeilad newydd gan James Burland, y pensaer y tu ôl i Stadiwm Dinas Manceinion, ynghyd ag Arup. Mae cynigion hefyd yn awgrymu y gallai'r adeilad fod yn gartref i amgueddfa snwcer.[20]

Ar 24 Mawrth 2026, cyhoeddwyd y byddai'r Crucible yn cael ei hadnewyddu yn dilyn Pencampwriaeth Snwcer y Byd 2028 i gael hyd at 500 o seddi ychwanegol, gan gynyddu ei gapasiti posibl i 1,480. Mae'r gwaith adnewyddu wedi'i gynllunio i fod wedi'i gwblhau mewn pryd ar gyfer cynnal y digwyddiad yn 2030. [21]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Sioe a gynhyrchwyd yn 2017

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Mark Allen hits 147 then loses as Barry Hearn warns Crucible 'not fit for purpose'". The Guardian (yn Saesneg). Reuters. 25 Ebrill 2025. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mawrth 2026. Cyrchwyd 14 Mai 2025.
  2. ↑ Cumber, Robert (28 Ebrill 2023). "World Snooker Championship: New 3,000-seat stadium to replace The Crucible could be on cards after 'positive meeting'". The Yorkshire Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Awst 2025. Cyrchwyd 25 Ebrill 2024.
  3. 1 2 "Sheffield Appoints Daniel Evans as New Director - - News - Whatsonstage.com". www.whatsonstage.com. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2026.
  4. ↑ "Colin George" (yn en), Wikipedia, 10 Gorffennaf 2026, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Colin_George&oldid=1363554376, adalwyd 1 Tachwedd 2026
  5. ↑ Coveney, Michael (11 Gorffennaf 2025). "Peter James obituary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2026.
  6. ↑ "Clare Venables" (yn en), Wikipedia, 8 Ebrill 2025, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Clare_Venables&oldid=1284602554, adalwyd 1 Tachwedd 2026
  7. ↑ "Michael Rudman" (yn en), Wikipedia, 26 Mehefin 2026, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Michael_Rudman&oldid=1361226747, adalwyd 1 Tachwedd 2026
  8. ↑ Fabrique. "Deborah Paige — RADA". www.rada.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Tachwedd 2026.
  9. ↑ "Michael Grandage" (yn en), Wikipedia, 31 Mai 2026, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Michael_Grandage&oldid=1357063412, adalwyd 1 Tachwedd 2026
  10. ↑ "Samuel West" (yn en), Wikipedia, 31 Hydref 2026, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Samuel_West&oldid=1382976581, adalwyd 1 Tachwedd 2026
  11. ↑ "Gleeson spurns takeover advance". The Yorkshire Post (yn Saesneg). 9 Ionawr 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Chwefror 2018. Cyrchwyd 7 Ebrill 2012.
  12. ↑ "Sheffield Theatres – Inside the Theatres: The Crucible". sheffieldtheatres.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Gorffennaf 2006.
  13. ↑ "City of Sheffield commemorative plaque on the Crucible Theatre, No. 55 Norfolk Street". PictureSheffield.com.
  14. ↑ "Adelphi Hotel history". sheffieldhistory.co.uk.
  15. ↑ "Sheffield Crucible's redevelopment timeline". BBC News. 31 Gorffennaf 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mehefin 2022. Cyrchwyd 25 Ebrill 2026.
  16. ↑ Gardner, Lyn (9 Chwefror 2007). "Gone West". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Hydref 2014. Cyrchwyd 7 Mai 2007.
  17. ↑ "Earl re-opens Crucible Theatre". The Yorkshire Post. 19 Chwefror 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Hydref 2012. Cyrchwyd 10 Chwefror 2022.
  18. ↑ Southby, Ben (7 Mai 2022). "Plans announced for new World Snooker Championship venue to compliment Crucible Theatre". EuroSport. Cyrchwyd 15 Mai 2022.
  19. ↑ Llewellyn, Liam (21 Ebrill 2022). "Barry Hearn wants 'new Crucible' and admits snooker may leave Sheffield if project fails". Daily Mirror. Cyrchwyd 15 Mai 2022.
  20. ↑ Haigh, Phil (7 Mai 2022). "Plans unveiled for new World Snooker Championship venue attached to the Crucible". The Metro. Cyrchwyd 15 Mai 2022.
  21. ↑ Telfer, Alastair (24 Mawrth 2026). "Revamped Crucible to host World Championship until 2045". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Mawrth 2026.