Gillian Davies
| Gillian Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | Gillian Mary Davies 1936 y Barri |
| Bu farw | 30 Medi 2024 Ysbyty Athrofaol Cymru |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | athro, actor |
Athrawes ac actores o Gymru a anwyd yn y Barri, Bro Morgannwg, oedd Gillian Davies neu Gillian Mary Davies (Dennis gynt) (1936 – 30 Medi 2024)[1]a fu'n portreadu'r prif gymeriadau mewn sawl cynhyrchiad llwyfan, gan gynnwys cynhyrchiad Theatr y Sherman o Under Milk Wood ym 1991.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi'i geni a'i magu yn y Barri, bu'n byw yno gydol ei hoes.[1]
Hyfforddodd Davies fel athrawes yng ngholeg hyfforddi athrawon y Barri, ac am gyfnod hir bu'n gweithio mewn ysgolion lleol ym Mro Morgannwg, gyda phlant ag anableddau dysgu a chorfforol, gan arbenigo mewn cerddoriaeth a drama.
Ymunodd â chwmni drama yn y Barri pan yn 12 oed, a gweithiodd yn helaeth gyda'r cwmnïau lleol weddill ei hoes, yn cynhyrchu, actio a chanu. Roedd yn aelod o Ganolfan Gelfyddydau y Barri.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod â William [Billy] George Davies ac yn fam i Peter a Rhys.[1]
Bu farw ar y 30 Medi 2024 yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn 88 oed.[1]
Gwaith ddethol
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]Cwmni Drama Bwrdeistrefol Iau y Barri
- Blithe Spirit
- The Importance of Being Ernest
- Night Must Fall
- Iolanthe
- Oklahoma!
- Carousel
- Oliver
- The Wishing Well
Cwmnïau eraill
- Annie - Showcase Productions
- Damn Yankees - Showcase Productions
- Chicago - Showcase Productions
- Sweeney Todd - Stage One
- Under Milk Wood - Theatr y Sherman[2]