Theatr y Sherman
| Math | theatr, sefydliad elusennol |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Cyfesurynnau | 51.4879°N 3.1766°W |
![]() | |
Theatr yn ardal Cathays, Caerdydd, yw Theatr y Sherman (Saesneg: Sherman Theatre). Feâi hadeiladwyd fel lleoliad deuol awditoriwm ym 1973 gyda chymorth ariannol gan Goleg Prifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd bellach). Sherman Cymru oedd enw'r theatr rhwng 2007 a 2016, pan newidiwyd yr enw yn Ãīl i Theatr y Sherman.[1]
Cafodd y theatr ei henwi ar Ãīl y brodyr Sherman, sylfaenwyr Sherman Football Pools, a roddodd arian i'w hadeiladu.
Mae C.W.L (Bill) Bevan, Pennaeth Coleg Prifysgol Caerdydd (Prifysgol Caerdydd bellach) yn cynnull gweithgor i ddatblygu cynnig Geoffrey Axworthy i ddefnyddio rhodd sylweddol gan Sefydliad Harry ac Abe Sherman iâr Coleg i greu canolfan gelfyddydau nodedig mawr yn y ddinas.
Agorwyd Theatr y Sherman ar 3 Hydref 1973, gyda dangosiad o'r ffilm Savage Messiah gan Ken Russell yn y Brif Theatr. Serch hynny, nid oedd yr agoriad swyddogol tan 23 Tachwedd 1973, pan wnaeth y Tywysog Philip agor y drysau gydag ymddangosiad o waith Dylan Thomas yn yr arena.
Erbyn hyn mae gan y sefydliad ddau safle perfformio, sef y Brif Theatr, gyda 452 o seddi, a'r stiwdio/arena, gyda 100 o seddi. Yn 2007 ymunodd Cwmni Theatr y Sherman a Sgript Cymru i greu cwmni enw o dan yr enw Sherman Cymru.
Enillodd y Sherman yr "UK Theatre Award" am "Best New Play 2015" ar gyfer Iphigenia in Splott gan Gary Owen. Enillodd Sophie Melville (actores Iphigenia) wobr actio yn The Stage hefyd. Enillodd cydweithrediad Gary Owen a Rachel O'Riordan; sef Killology, wobr yn y gwobrau Olivier hefyd yn 2018.
Enillodd Theatr y Sherman Wobrau'r Fringe First a'r Herald Angel Award yn NgÅĩyl Ymylol Caeredin yn 2008 gyda'i chynhyrchiad teithiol o Deep Cut, a sawl enwebiad a llwyddiant yng Ngwobrau Theatr Cymru a gynhaliwyd rhwng 2013 a 2018.
Yn 2026, llwyfannwyd rhagddangosiadau y sioe gerdd Pride ar y cyd ÃĒ'r Theatr Genedlaethol Frenhinol cyn iddi agor yn swyddogol yn Llundain ym Mehefin. Roedd nifer o Gymry yn rhan o'r cynhyrchiad.
Cyfarwyddwyr artistig
[golygu | golygu cod]- 1973 â 1988: Geoffery Axworthy
- 1988 â 1989: Mike James
- 1990 â 2006: Phil Clark
- 2006 â 2014: Chris Ricketts
- 2014 â 2019: Rachel O'Riordan
- 2019 â 2026: Joe Murphy
- 2026 - presennol: Francesca Goodridge
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- â "LLINELL AMSER STORI'R SHERMAN". Sherman Theatre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-29.
