Neidio i'r cynnwys

Night Must Fall (drama)

Oddi ar Wicipedia
Night Must Fall
Clawr argraffiad cyntaf y ddrama (1935)
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEmlyn Williams Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afDuchess Theatre Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af31 Mawrth 1935 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Drama lwyfan seicolegol a llawn cyffro gan y Cymro Emlyn Williams ydi Night Must Fall a berfformiwyd gyntaf ym 1935. Cafodd y ddrama ei llwyfannu ddegau o weithiau yn yr 20fed ganrif. Mae'r ddrama'n archwilio themâu amrywiol megis llofruddiaeth, triniaeth seicolegol, amheuaeth a'r gallu i guddio drygioni y tu ôl i ymddangosiad swynol. Cafwyd sawl addasiad i ffilm gan gynnwys Night Must Fall (1937), Night Must Fall (1964) ac addasiad arall ym 1954.[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Yr Arglwydd Brif Ustus
  • Mrs. Bramson - dynes oedrannus
  • Olivia Grayne - nith Mrs Bramson
  • Hubert Laurie
  • Nyrs Libby
  • Mrs Terence - y cogydd
  • Dora Parkoe - morwyn Mrs Bramson
  • Arolygydd Belsize
  • Dan - tad plentyn Dora

Cynnwys

[golygu | golygu cod]

Mae Mrs Bramson, dynes oedrannus chwerw, yn byw mewn rhan anghysbell o Essex, gyda'i nith ddeallus ond darostyngedig, Olivia. Mae Bramson yn treulio ei holl amser yn cwyno wrth eistedd mewn cadair olwyn (er y datgelir yn ystod y ddrama nad oes ganddi unrhyw anabledd o gwbl, mewn gwirionedd). Mae'r staff sy'n gweithio iddi, Dora, morwyn ifanc, sensitif a Mrs Terrence, y cogydd yn ei chasau hi. Mae hi'n cael ei chasau gan Olivia hefyd gan fod Mrs Bramson yn ei thrin hi fel morwyn.

Yn ystod y ddrama, mae Dora'n datgelu ei bod yn feichiog, ac ystyria Mrs Bramson ei diswyddo. Ond mae hi'n bodloni ar berswadio tad y plentyn i briodi Dora, ac daw hi'n amlwg bod y tad yn ddyn ifanc hynaws a golygus o'r enw Dan. Llwydda Dan hefyd i swyno Mrs Bramson, gan beri iddi anghofio popeth am feichiogrwydd Dora a chyflogi Dan fel ei chynorthwyydd preifat.

Amheuaeth

[golygu | golygu cod]

Nid yw Olivia'n hapus, nac yn cael ei swyno gan Dan, gan deimlo bod ei hynawsedd yn ffasâd celwyddog sy'n cuddio rhywbeth sinistr, ac mae ei hamheuon yn chwyddo pan adroddir, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, fod merch brydferth leol wedi mynd ar goll. Gan gredu bod gan Dan ran yn niflaniad y ferch, mae Olivia a'r staff, a’i hedmygydd rhwysgfawr, Hubert, yn mynd trwy bethau Dan pan nad yw o gwmpas. Wrth iddynt chwilio ei eiddo, maent yn dod o hyd i lun o Dan â’r ddynes goll wedi’i chuddio ymhlith ei eiddo. Mae'r darganfyddiad ysgytwol hwn yn cryfhau amheuon a phenderfyniad Olivia i brofi mae un ffug yw cymeriad ymddangosol Dan.

Ychydig yn ddiweddarach, mae llaw ddynol yn cael ei chanfod yn y sbwriel y tu allan i'r tŷ, a darganfyddir corff yn y coed — corff y fenyw sydd ar goll, ond heb ei phen. Erbyn hyn mae Olivia yn ofni bod Dan yn llofrudd. Mae hi hefyd yn credu ei fod yn cadw'r pen mewn blwch het a ddaeth i'r tŷ gydag ef. Ynghanol yr anhrefn i gyd, mae Hubert yn ceisio argyhoeddi Olivia i ddianc gydag ef, a dod yn wraig iddo, ond mae hi'n gwrthod.

Coffr ac arian

[golygu | golygu cod]

Mae Mrs Bramson yn datgelu i Olivia bod ganddi gannoedd o bunnoedd dan glo mewn coffr [safe] yng nghanol yr ystafell fyw. Mae Olivia yn ei rhybuddio nad yw'n ddoeth gadael coffr yn y golwg, ond mae Bramson yn gwrthod gwrando. Yn ddiweddarach yr un noson, mae Olivia yn ceisio cwestiynnu Dan am ei orffennol, gan egluro wrtho pam ei bod hi'n goddef ei modryb gâs, gan awgrymu ei dymuniad i'w lladd. Eglura Dan nad ganddi'r gallu i wneud hynny, mewn eiliad fer o ddealltwriaeth.

Ymwela Belsize, heddwas o Scotland Yard, sydd wedi dod i holi Olivia a Dan mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth. Wrth gyfweld Dan, mae Belsize yn darganfod y blwch het sydd wedi'i gloi. Mae'n gofyn i Dan am yr allwedd, ond dywed Dan nad ei eiddo ef mohono. Wrth i Belsize dyfu’n fwy amheus, mae Olivia yn achub ei gam, drwy honni bod y blwch yn perthyn iddi hi, ac yn ei gadw yn ei llofft.

Yn ddiweddarach, wrth i'r staff baratoi i ymadael, dywed Olivia ei bod hi am adael hefyd er mwyn aros gyda ffrindiau yn Llundain. Mae hi'n dweud wrth Mrs Bramson ei bod yn rhy ofnus i aros yn y tŷ ac yn ei rhybuddio i ymadael hefyd. Unwaith eto, mae Bramson yn gwrthod gwrando ar ei nith, gan ddweud ei bod wedi gor-gynhyrfu. Wrth i Dora a Mrs Terrence baratoi i adael, mae Dan yn penderfynu mynd gyda nhw, a gadewir Mrs Bramson ar ei phen ei hun ac, am y tro cyntaf, mae'r gynulleidfa'n gweld ei bod hithau hefyd wedi dychryn. Mae Dan yn dychwelyd yn gynnar, ac yn cynorthwyo Mrs Bramson ar gyfer ei gwely.

Llofruddiaeth

[golygu | golygu cod]

Wedi i Mrs Bramson gysgu, mae Dan yn ei mygu i farwolaeth gyda chlustog, er nad yw hyn yn cael ei gyfleu'n benodol. Agora Dan y coffr, a dwyn yr arian. Dychwela Olivia gan ddarganfod corff ei modryb, ac yn gweld Dan yn paratoi i losgi'r tŷ'n ulw. Mae hi'n dweud wrth Dan ei bod hi'n gwybod popeth, ac mae yntau'n cyfaddef pob dim, cyn i'r ddau weld goleuadau'r heddlu yn nesau. Cyhoedda Olivia na ddylai'r heddlu cael mynediad, gan awgrymu ei bod wedi syrthio mewn cariad â Dan, ac am ei amddiffyn.

Mae Belsize a'i swyddogion yn arestio Dan, ym mhresenoldeb Dora a Mrs Terrence, wrth i Olivia geisio awgrymu ei bod hithau hefyd yn rhan o'r drosedd. Ond nid yw Dan yn fodlon ei bod am rannu'r bai, gan ddatgan mai ei waith ef yn unig, oedd y cyfan. Cyn iddo gael ei lusgo i ffwrdd, mae'n edrych yn y drych ac yn siarad ag ef ei hun, gan brofi ei fod mewn gwirionedd yn wallgof. Yna mae'n cydio yn Olivia ac yn ei chusanu'n angerddol.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Cyfarwyddodd Miles Malleson y cynhyrchiad gwreiddiol o Night Must Fall ar 31 Mai 1935, yn Theatr y Dduges, Llundain.[1] Aeth ar daith ragarweiniol i Gaeredin, Newcastle upon Tyne a Glasgow, cyn dychwelyd i'r West End, am 436 o berfformiadau.[2]

Cymeriad Cynyrchiad

1935

Llundain

Cynyrchiad

1936

Broadway[3][4]

Cynhyrchiad

1996 Haymarket

Theatr Clwyd

2005[5]

Yr Arglwydd Brif Ustus Eric Stanley Ben Webster - -
Mrs. Bramson May Whitty Rosemary Leach Dilys Laye
Olivia Grayne Angela Baddeley Charlotte Fryer Jenny Livsey
Hubert Laurie Basil Radford Michael Shepley Charles Millham
Nyrs Libby Dorothy Langley Shirley Gale Dora Jones
Mrs. Terence Kathleen Harrison Doris Hare Lynn Hunter
Dora Parkoe Betty Jardine (wedyn Patricia Hayes)[6] Michelle Luther
Arolygydd Belsize Matthew Boulton John Cordin
Dan Emlyn Williams Jason Donovan Lee Haven-Jones

Agorodd cynhyrchiad Efrog Newydd ar Broadway ar y 28 Medi 1936 yn Theatr Ethel Barrymore. Wedi'i chynhyrchu gan Sam H. Harris a'i chyfarwyddo gan Emlyn Williams ei hun, oedd hefyd yn portreadu 'Dan' yn y ddrama. Cafwyd 64 o berfformiadau.

Bu i Emlyn Williams bortreadu 'Dan' mewn cynhyrchiad yn Theatr y Royal Court, Lerpwl ym 1943 hefyd.[7]

Cafwyd cynhyrchiad yn Theatr y Grand, Abertawe ym 1961.[8]

Cyfnod diweddar

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama yn Theatr Frenhinol yr Haymarket ar 14 Hydref 1996, gyda Jason Donovan fel Dan, Rosemary Leach fel Mrs Bramson a Charlotte Fryer fel Olivia Grayne.[9] Yn dilyn adolygiadau ofnadwy, yn bennaf oherwydd ymgais anffodus Donovan i geisio siarad ag acen Gymraeg, daeth y cynhyrchiad i ben wedi 3 wythnos gyda cholledion “well into six figures.” [10][11][12]

Cafwyd cynhyrchiad arall ar Broadway gyd Matthew Broderick ym 1999, gyda'r cast yn cynnwys Judy Parfitt fel Mrs Bramson a J. Smith-Cameron fel Olivia Grayne.[13]

Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Clwyd yn 2005 o dan gyfarwyddyd Terry Hands.[5]

Addasiadau

[golygu | golygu cod]
Rosalind Russell a Robert Montgomery yn Night Must Fall (1937)

Cynhyrchwyd addasiad ffilm ym 1937 gan ddefnyddio'r un teitl â'r ddrama wreiddiol wedi ei haddasu gan John Van Druten, gyda Robert Montgomery, Rosalind Russell, a'r Fonesig May Whitty, wedi ei chyfarwyddo gan Richard Thorpe.

Cafwyd addasiad ar gyfer y teledu ym 1954 fel rhan o'r gyfres Ponds Theatre gyda Terry Kilburn, Una O'Connor, ac Evelyn Varden.

Cynhyrchwud ffilm arall ym 1964 gan Karel Reisz o addasiad Clive Exton, gydag Albert Finney, Susan Hampshire a Sheila Hancock, ond nid oedd mor llwyddiannus â'r ffilm wreiddiol.

Ymysg nifer o addasiadau ar gyfer y Radio, bu'r Fonesig Sybil Thorndike yn portreadu 'Mrs Bramson' mewn cynhyrchiad ym 1969 ar gyfer BBC Radio 4, wedi'i gyfarwyddo gan Betty Davies ac yn cynnwys yr awdur radio toreithiog o Gymru, William Ingram fel Danny. Ym 1985 darlledodd BBC Radio 4 gynhyrchiad arall o'r ddrama, gyda Hywel Bennett yn y brif ran.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 Williams, Emlyn (1935). Night Must Fall: A Play in Three Acts. New York: Samuel French. t. 144. Cyrchwyd 27 Hydref 2026.
  2. ↑ Kabatchnik, Amnon (2010). Blood on the Stage 1925–1950: Milestone Plays of Crime, Mystery, and Detection. Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield Scarecrow Press. ISBN 9780810869639.
  3. ↑ "Night Must Fall". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 27 Hydref 2026.
  4. ↑ Williams, Emlyn (1935). Night Must Fall: A Play in Three Acts. New York: Samuel French. t. 8. Cyrchwyd 27 Hydref 2026.
  5. 1 2 "Rhaglen Theatr Clwyd 2005". Theatr Clwyd.
  6. ↑ "theatricalia.com". abrakadabra.dracos.co.uk. Cyrchwyd 27 Hydref 2026.
  7. ↑ "theatricalia.com". abrakadabra.dracos.co.uk. Cyrchwyd 27 Hydref 2026.
  8. ↑ "theatricalia.com". abrakadabra.dracos.co.uk. Cyrchwyd 27 Hydref 2026.
  9. ↑ https://variety.com/1996/legit/reviews/night-must-fall-2-1200447108/
  10. ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ionawr 2018. Cyrchwyd 27 Hydref 2026.
  11. ↑ https://www.independent.co.uk/arts-entertainment/night-must-fall-haymarket-london-1358597.html
  12. ↑ The Stage, 31 Hydref 1996
  13. ↑ "Night Must Fall". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 27 Hydref 2026.