Neidio i'r cynnwys

Y Fflint

Oddi ar Wicipedia
Y Fflint
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,804, 12,953, 13,736 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,891.78 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEllesmere Port Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.244°N 3.132°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000186 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ245725 Edit this on Wikidata
Cod postCH6 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddFflint Wrecsam
Etholaeth y DURob Roberts (Ceidwadwyr)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Tref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Y Fflint (hefyd Saesneg: Flint). Saif ar lannau Dyfrdwy. Mae gorsaf drenau'r dref ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Rhed yr A548 a'r A5119 drwy'r dref. Y Fflint yw canolfan weinyddol y sir.

Tref ddiwydiannol yw'r Fflint. Ar ymyl y dref ceir castell y Fflint, a godwyd rhwng 1277 a 1280 gan Edward I o Loegr. Nid oes llawer i'w weld yno heddiw o'r dref garsiwn ar gyfer ymsefydlwyr o Loegr a godwyd wrth ymyl y castell.

Heddiw mae'r Fflint yn ganolfan siopa eithaf prysur yn yr ardal.

Neuadd y Dre yn y Fflint

Nid yw tarddiad enw'r Fflint yn sicr ond mae'n debyg y daw o'r Lladin castellum super fluentum, sef "castell ar afon", er bod rhai yn meddwl ei fod yn dod o siâp y sir, sy'n debyg i gyllell fflint hynafol.[1] Mae gan y Fflint y siartr dref hynaf yng Nghymru, sy'n dyddio'n ôl i 1284.

Cychwynnodd Edward I waith ar Gastell y Fflint ym 1277 yn ystod ei ymgyrch i oresgyn Cymru. Roedd lluoedd Madog ap Llywelyn wedi ymosod ar y castell a'r dref yn ystod gwrthryfel 1294-95 ac felly fe'i llosgodd amddiffynwyr y dref er mwyn ei warafun i'r Cymry.

Rhoddwyd Rhisiart II i'w elyn Henry Bolingbroke yn y castell ym 1399. O ganlyniad i hyn, Castell y Fflint yw lleoliad drama Shakespeare, Richard II. Y cyntaf o "gylch haearn" o gestyll brenhinol Edward I yng Nghymru oedd y castell hefyd a defnyddiwyd ei gynllun fel sail i gestyll mwy fel Harlech a Rhuddlan. Methodd Owain Glyn Dŵr yn ei ymosodiad arno ar ddechrau ei wrthryfel ym 1400.

Map o Gymru gan John Speed o 1610. Gellir gweld tref y Fflint yn y gogledd-ddwyrain.

Yn hytrach na mur o gwmpas y dref, roedd ffos balis amddiffynnol o bridd a phren. Gellid gweld hon yn nhrefn y strydoedd nes ganol y 1960au, a gellir gweld y ffin ganoloesol hyd heddiw. Mae hyn i'w weld hefyd ar y map o Sir y Fflint gan John Speed.

Mae tai bric coch o'r 19g, yn aml mewn rhesi, yn nodweddiadol o bensaernïaeth y Fflint. Codwyd eglwys y dref, Eglwys Fair, yn y 19g. Mae'n ganolfan siopio eithaf prysur.

Eisteddfod Genedlaethol

[golygu | golygu cod]

Ym 1969, daeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Fflint, felly mae ganddi gylch o feini'r Orsedd yn y cae gyferbyn ag Ysgol Gwynedd. Ym mis Gorffennaf 2006, meini'r Fflint oedd canolbwynt seremoni datgan Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint a'r Cyffiniau y flwyddyn wedyn.[2]

Machlud haul dros yr afon

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Fflint (pob oed) (12,953)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Fflint) (1,509)
  
12.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Fflint) (8597)
  
66.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Fflint) (1,828)
  
34.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  2. ↑ National Eisteddfod Proclamation, BBC Wales, http://www.bbc.co.uk/wales/northeast/sites/slideshows/pages/nat-eist.shtml?1, adalwyd 27 Awst 2006
  3. ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.