Neidio i'r cynnwys

Y Ffin

Oddi ar Wicipedia
Y Ffin
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGwenlyn Parry Edit this on Wikidata
CyhoeddwrChristopher Davies Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1975 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1973 Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afEisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973 Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama lwyfan Gymraeg gan Gwenlyn Parry yw Y Ffin neu Y Ffîn, a gomisiynwyd gan Gwmni Theatr Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Christopher Davies ym 1975, ac ail gyhoeddwyd ym 1986. Lleolir y ddrama ar ei chychwyn mewn 'cwt bugail ar ochor mynydd', ond sy'n cael ei weddnewid yn gyfangwbl erbyn yr ail act.[1] Wrth i Williams a Now ymweld â'r hen gwt, mae ymwelydd annisgwyl yn codi helynt rhwng y tri.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Williams - gŵr tua hanner cant oed
  • Now - llanc tua ugain oed
  • Dringwr - dringwr tua deg ar hugain oed

Cefndir

[golygu | golygu cod]

"Fe ddechreuodd Y Ffin rhyngom ryw saith mlynedd yn ôl [1966] - mewn car ar daith o Gaernarfon i Gaerdydd," yn ôl John Hefin [Evans], pan gyhoeddwyd y ddrama am y tro cyntaf ym 1975:

"Roedd Wilias a Now a rhyw ferch anelwig yn eu cwt sinc wedi dechrau meddiannu dychymyg yr awdur yn y dyddiau pell hynny. Wrth wibio heibio i Langollen, Henffordd, a Llwydlo, cynyddodd fy mrwdfrydedd i wybod mwy am triawd, fesul milltir. Ond drama nesaf i'w chyhoeddi oedd Ty Ar Y Tywod - 'roedd Y Ffin yn parhau yn y groth, yn glyd yn y tywyllwch, a dim ond rhyw dwy flynedd yn ôl, [1973] pan gafodd gomisiwn gan Gwmni Theatr Cymru, y dechreuwyd ar Y Ffin o ddifri."[1]

Gwelwyd y ddrama fel yr olaf mewn cyfres o dair, gyda Saer Doliau a Tŷ Ar Y Tywod yn ei rhagflaenu. "Roedd hyn yn fwy eglur i Dafydd [David Lyn] a Gaynor, oherwydd bu'r ddau'n actio yn ddrama gyntaf - Saer Doliau," yn ôl John Hefin. "Sylwodd Eilian nad oedd yna'r un araith hir yn Y Ffin a'r gwahaniaeth amlwg rhwng y dechneg o'i chymharu â'r areithiau yn Tŷ Ar Y Tywod. Roeddem i gyd, yn enwedig Wil a Dewi, y Rheolwr Llwyfan, yn sylweddoli, gyda phryder, ar gymaint o waith fyddai'n rhaid wrtho i drawsnewid murddun anniben i dŷ twt o dan lygaid cynulleidfa.", ychwanegodd.[1]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

1970au

[golygu | golygu cod]
Hysbyseb drama Y Ffin gan Gwmni Theatr Cymru[2]

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973. Cyfarwyddwr John Hefin; cynllunydd Martin Morley; goleuo Murray Clark; rheolwr llwyfan Gwynfryn Davies; gwisgoedd Gwyneth Roberts; cynorthwywyr Duncan Scott, Dewi Huws, Mike Thomas, Emlyn Owen; cast:

Recordiwyd y ddrama ar gyfer y teledu gan BBC Cymru a'i dangos ar Nos Wener, 7fed o Fehefin, 1974. Cyfarwyddwr John Hefin; cynllunydd Pauline Harrison; cast:

1980au

[golygu | golygu cod]

Cafodd cynhyrchiad arbrofol ei lwyfannu yn y 1980au gan Theatr Ystwyth, a drodd y cymeriadau yn ddwy ddynes a dyn.[3]

1990au

[golygu | golygu cod]

Bu i Arad Goch lwyfannu'r ddrama ym 1996 o dan gyfarwyddyd Jeremy Turner. Roedd y cast yn cynnwys:[3]

Nododd y cyfarwyddwr bod hon yn "ddrama anodd i'w haddasu neu'i diweddaru,"[4] ac o'r herwydd, "cyflwyniad lled agos i'r disgwyl a gafwyd, felly," yn ôl Roger Owen wrth ei hadolygu yn Barn [Ionawr 1997], "a'r senario draddodiadol yn datblygu'n raddol i'w huchafbwynt rhyfedd, anghysurus," ychwanegodd.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 Parry, Gwenlyn (1986). Y Ffin. Christopher Davies. ISBN 0 7154 0216 1.
  2. ↑ "Sep 20, 1973, page 30 - The North Wales Weekly News at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Medi 2024.
  3. 1 2 "Dameg y Cwt Bugail". Barn. Hydref 1996.
  4. 1 2 Owen, Roger (Ionawr 1997). "O'r Deifiol i'r Dyddiedig". Barn 408.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Rhestr llyfrau Cymraeg

Wicipedia:Wicibrosiect Llyfrau Gwales