Neidio i'r cynnwys

Swleiman I

Oddi ar Wicipedia
Swleiman I
Ganwyd6 Tachwedd 1494 Edit this on Wikidata
Trabzon Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 1566 Edit this on Wikidata
Szigetvár Edit this on Wikidata
Galwedigaethllywodraethwr, deddfwr, arweinydd milwrol, gwleidydd, swltan Edit this on Wikidata
Swyddswltan yr Ymerodraeth Otoman, Califf Edit this on Wikidata
TadSelim I Edit this on Wikidata
MamHafsa Sultan Edit this on Wikidata
PriodHürrem Sultan, Mahidevran Hatun, Fülane Hatun, Gülfem Hatun Edit this on Wikidata
PartnerFülane Hatun, Gülfem Hatun Edit this on Wikidata
PlantŞehzade Mustafa, Şehzade Mehmed, Mihrimah Sultan, Selim II, Şehzade Bayezid, Şehzade Murad, Raziye Osmanoğlu, Șehzade Cihangir, Şehzade Abdullah, Фатьма-Нур, Şehzade Mahmud, Шехзаде Ахмед Edit this on Wikidata
PerthnasauRüstem Paşa Edit this on Wikidata
LlinachOttoman dynasty Edit this on Wikidata

Swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid o 1520 hyd ei farwolaeth oedd Kanuni Sultan Swleiman I, hefyd Swleiman y Godidog (6 Tachwedd 1494 – 6 Medi 1566).

Ganed ef yn Trabzon, yn fab i'r Swltan Selim I. Wedi iddo ddilyn ei dad ar yr orsedd, ymgymerodd a chyfres o ymgyrchoedd milwrol, gan ymestyn ei ffiniau i gynnwys y Balcanau a rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn 1522, cipiodd ynys Rhodos oddi ar Farchogion yr Ysbyty. Yn 1526, gorchfygodd frenin Hwngari a'i ladd ym Mrwydr Mohács, gyda'r canlyniad fod Hwngari'n ymrannu'n dair rhan. Bu'n gwarchae ar ddinas Fienna yn 1529 a 1532, ond heb lwyddiant, ac yn 1533 gwnaeth gytundeb heddwch a'r Archddug Ferdinand.

Yn y dwyrain, bu'n ymladd yn erbyn rheolwyr Saffafid Persia. Cipiodd ddinas Baghdad oddi wrthynt yn 1534. Cipiodd lawer o diriogaeth yng Ngogledd Affrica hefyd, gan eu defnyddio ar gyfer ymosodiadau ar fyddinoedd yr ymerawdwr Siarl V. Un o gadfridogion Swleiman yn yr ymgyrchoedd hyn oedd Khair-ed-din Barbarossa.

Dan ei deyrnasiad ef, blodeuodd dysg a phensaernïaeth yn yr ymerodraeth, ac ef oedd yn gyfrifol am ail-adeiladu Istanbwl, Mecca a Baghdad. Bu farw yn Szigetvár, a dilynwyd ef gan ei fab Selim II.

Rhagflaenydd:
Selim I
Swltan Ymerodraeth yr Otomaniaid
22 Medi 1520 – 5 Medi 1566
Olynydd:
Selim II