Pythagoras
Gwedd
| Pythagoras | |
|---|---|
| Ganwyd | Πυθαγόρας Samos |
| Bu farw | Metapontum |
| Man preswyl | Crotone |
| Dinasyddiaeth | Samos |
| Galwedigaeth | mathemategydd, athronydd, gwleidydd, ysgrifennwr, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth |
| Adnabyddus am | theorem Pythagoras, triawdau Pythagoraidd, Platonic solid |
| Prif ddylanwad | Pherecydes of Syros, Anacsimandros, Thales, Zarathustra |
| Mudiad | Pythagoreanism, athroniaeth y Gorllewin |
| Tad | Mnesarchus |
| Priod | Theano |
| Plant | Mnesarchus, Myia, Damo, Telauges, Arignote |
Athronydd a mathemategwr Groegaidd enwog oedd Pythagoras (Groeg: Πυθαγόρας; 582 CC - 496 CC), a aned yn Samos.
Roedd gan Pythagoras ddiddordeb mewn seryddiaeth, cerddoriaeth (darganfu ef sut mae cynganeddion yn gweithio) ac, yn bwysicaf, mathemateg.
Mae'n fwyaf enwog am ei Theorem: fod hyd yr hypotenws mewn triongl ongl sgwâr wedi'i sgwario yn hafal i'r hydoedd y ddau ochr arall wedi'i sgwario a'i adio at ei gilydd (a²+b²=c²).
Darganfu Pythagoras hefyd na all ail isradd 2 fod yn rhif cymarebol.
Roedd gan Pythagoras nifer o ddisgyblion a oedd yn dilyn ei ddysgeidiaeth a'i gredoau. Roeddent yn casáu ffa a chredai Pythagoras iddo fod yn rhyfelwr o Gaerdroea mewn bywyd cynharach.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Geodedd: cangen o fathemateg gymhwysol
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- D. James Jones, Hanes Athroniaeth: Y Cyfnod Groegaidd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939), pennod: "Pythagoras a'i Ysgol", tt.12–18