Neidio i'r cynnwys

Penmynydd

Oddi ar Wicipedia
Penmynydd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaOwain Tudur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaCwm Cadnant Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2448°N 4.2344°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH508744 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddBangor Conwy Môn
Etholaeth y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Pentref yng nghymuned Penmynydd a Star, Ynys Môn, yw Penmynydd[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar y ffordd gefn B5420 rhwng Porthaethwy a Llangefni.

Eglwys Gredifael, Penmynydd
Ffenestr liw fyd-enwog teulu'r Tuduriaid yn yr eglwys

Mae'r pentref yn fwyaf adnabyddus oherwydd teulu Tuduriaid Penmynydd, disgynyddion Ednyfed Fychan. Yma y cafodd Owain Tudur ei eni yn 1400, a fu yn ymladd gyda Harri V a phriododd weddw'r brenin Catherine de Valois, pan fu hwnnw farw. Cafodd ei garcharu a'i ladd am hynny. Roedd Harri VII yn ŵyr iddo.

Adeiladwyd y plasdy presennol, Plas Penmynydd, yn 1576, ond bu plasdy cynharach ar yr un safle neu gerllaw. Ymwelodd y bardd Iolo Goch â'r plasdy rhywbryd yn y cyfnod 1367-82. Mae'n moli croeso hael Goronwy ap Tudur Fychan (Gronw Fychan) ac yn cymharu Penmynydd i aelwyd llys Urien Rheged:

Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
Caer Pen Môn, carw Penmynydd,
Tŷ, gwelais gynt, teg wiwle,
Tudur Llwyd, da ydyw'r lle;
Yno mae, heb gae ar ged,
Ail drigiant aelwyd Rheged.[3]

Mae beddfaen alabaster cerfiedig Gronw Fychan, a fu farw yn 1382, gyda'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys y plwyf, sydd wedi ei chysegru i Sant Gredifael.

Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn y 14g, yn ail-ddefnyddio rhai cerrig o'r eglwys flaenorol, a adeiladwyd yn y 12g. Mae'n cynnwys ffenestr liw gyda nifer o symbolau'r Tuduriaid a'r arwyddair Undeb fel Rhosyn yw ar lan Afonydd ac fel Tŷ Dur ar Ben y Mynydd. Mae'r geiriau 'ty' a 'dur' wrth gwrs yn rhoi 'Tudur' i ni.

Adeiladau eraill o ddiddordeb yn y pentref yw'r hen elusendai, a adeiladwyd yn 1620 yn unol ag ewyllys Lewis Rogers.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Rhagfyr 2021
  3. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cerdd V, ll. 47-52

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]