Cwmwl
| Enghraifft o: | math o ffenomen meteorolegol |
|---|---|
| Math | tywydd |
| Deunydd | anwedd dŵr, defnyn, grisial iâ |
| Dynodwyr | |
Diferion dŵr neu grisialau iâ yn yr awyr yw cwmwl. Ar y Ddaear, mae cymylau yn ffurfio pan fydd anwedd dŵr yn codi ac oeri, gan ymddangos mewn nifer o ffurfiau.
Rhennir cymylau yn ddau brif ddosbarth: cymylau stratws (o'r Lladin stratus, yn golygu "haen") a chymylau cwmwlws (Lladin cumulus, "wedi eu pentyrru").
Sut mae cymylau'n ffurfio
[golygu | golygu cod]Mae cymylau yn rhan o'r cylchred dŵr.
Yn syml iawn, mae cymylau yn ffurfio oherwydd bod dŵr ar ffurf nwy (anwedd) yn troi mewn i ddiferion o hylif neu iâ. Mae'r diferion hyn yn glynu at ei gilydd, gan greu siapiau sy'n gallu cael eu gweld o'r ddaear – cymylau.
Gall hyn ddigwydd mewn sawl ffordd.
Efallai bod dŵr ar y ddaear yn twymo ac yn anweddu (troi i mewn i nwy), ac yn codi i'r awyr. Yn uchel yn yr awyr mae'n llawer oerach nac ar y ddaear, felly mae'r anwedd yn oeri a throi yn ôl mewn i hylif. Mae'n ffurfio diferion dŵr. Gall hyd yn oed ffurfio grisialau iâ os yw'n ddigon oer.
Gall cymylau hefyd ffurfio pan fydd lot fawr o anwedd dŵr yn yr awyr. Pan nad yw'r awyr yn gallu dal mwy o ddŵr, mae'n dechrau cyddwyso. Hynny yw, mae'n troi mewn i ddiferion bychan o hylif. Meddyliwch am y ffordd mae stêm yn ffurfio uwchben mỳg o ddŵr poeth.
Mae cymylau hefyd yn ffurfio pan fydd awyr poeth a gwlyb yn cwrdd ag awyr oer. Dyma beth sy'n creu niwl ar hyd ffrynt gynnes.
Lliw cymylau
[golygu | golygu cod]Mae cymylau yn ymddangos yn wyn am fod golau'r Haul yn adlewyrchu oddi ar y diferion. Pan fydd cwmwl yn ddwys iawn, nid oes llawer o olau yn cyrraedd gwaelod y cwmwl, ac felly mae'n ymddangos yn llwyd.[1] Mae cymylau glaw fel y tarangwmwl yn orlawn o ddiferion dŵr felly mae nhw'n edrych yn drwchus a llwyd dros ben!
Glaw
[golygu | golygu cod]Pan na fydd yr awyr yn gallu dal mwy o ddiferion dŵr, mae'n dechrau bwrw glaw.[2] Dim ond rhai mathau o gwmwl sy'n cynhyrchu glaw. Mae'r tabl isod yn dangos pa rai.
Mathau o gwmwl
[golygu | golygu cod]Mae sawl enw am gymylau ar lafar yng Nghymru. Mae'r tabl islaw yn defnyddio yr enw cyffredin Cymraeg gyntaf, gyda'r gair Lladin gwyddonol mewn cromfachau.
Geirfa
[golygu | golygu cod]- Darfudol = yn ffurfio trwy ddarfudiad sef awyr gwlyb twym yn codi a chyddwyso
- Di-ddarfudol = yn ffurfio trwy broses arall, fel cael eu codi gan y gwynt[3]
- Rhydd-ddarfudol = darfudiad dramatig lle mae'r tymheredd yn oeri mwy na 1ºC am bob 100m mae'r aer yn codi
- Haenol = stratiform, wedi'i ffurfio o haenau
- Tyrog = cwmwl ar ffurf tŵr tal
- 💧 = gallu creu glaw
Ffurf[4] Lefel[5] |
Haenol
di-ddarfudol |
Ffurf Blewog di-ddarfudol gan amlaf |
Ffurf haenol lled-ddarfudol |
Ffurf cwmwlws rhydd-ddarfudol |
Ffurf cwmwlws darfudol cryf |
|---|---|---|---|---|---|
| Eithafol uchel | Cymylau nosloyw ar ffurf llen [Math I][6] | Cymylau nosloyw tonnog a throellog [Math II a III] | Cymylau nosloyw rhesog [Math IV] | ||
| Uchel iawn[7] | Cwmwl stratosfferig pegynol | ||||
| Uchel | Siro-stratws | Gafrgwmwl | Traeth awyr | ||
| Canolog | 💧 Altostratws | Traeth awyr | |||
| Tyrog fertigol[8] | 💧 Cwmwlws tyrog | 💧 Tarangwmwl(Cwmwlonimbws) | |||
| Aml-lefel | 💧 Nimbostratws | Cwmwlws mediocris | |||
| Isel | 💧 Tarthgwmwl
(Stratws) |
💧 Stratocwmwlws | Cwmwlws humilis neu fractus | ||
| Lefel y tir | Niwl | ||||
Mathau eraill o gwmwl
[golygu | golygu cod]Cymylau arbennig
[golygu | golygu cod]

Cymylau nosloyw, cymylau eithafol uchel sy'n cynnwys grisialau iâ a llwch.
Cymylau baner, sy'n ffurfio ar gopa mynydd.[9] Mae 'rhuban' hir o gwmwl yn cael ei chwythu gan y gwynt. Mae'n edrych fel baner yn chwifio o ben y mynydd.
Tonnau Kelvin-Helmholtz (terminoleg swyddogol) neu gwmwl Kelvin-Helmholtz. Cwmwl prin iawn. Mae'n edrych fel tonnau'r môr. Mae'n tueddu i ymddangos ar ddiwrnodau gwyntog. Gall cymylau Kelvin-Helmholtz ddigwydd mewn cysylltiad ag amryw o brif gategorïau o gwmwl, megis Sirws, Altocwmwlws, Stratocwmwlws, Stratws a Cwmwlws. Oherwydd hyn mae Swyddfa Dywydd y Deyrnas Unedig yn dosbarthu cymylau Kelvin-Helmholtz fel ‘Cymylau Arbennig’.[10]
Cymylau ategol
[golygu | golygu cod]Dosbarthiad arall sy’n cynnwys cymylau llai cyffredin yw cymylau ategol (Saesneg: accessory clouds). Mae'r cymylau hyn ond yn ffurfio fel rhan o gymylau eraill. Nid ydynt yn ymddangos wrth eu hunain.[11] Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys cymylau Pileus, Pannus, Velum, Incus, Mamma, Virga, Praecipitatio, Arcus, a Tuba.[12]
Cymylau anthropogenig
[golygu | golygu cod]Gweithgareddau dyn sy’n gyfrifol am rhain, megis olion cyddwyso (contrails awyren), cymylau Pyrocumulus (tân) a Fumulus (mwg).[13]
Oriel
[golygu | golygu cod]- Traeth awyr isel Altocumulus
- 'Pysgod awyr' neu Altocumulus lenticularis dros Harold's Cross Dulyn, Iwerddon
- Cymylau Altostratws dros Hong Kong ym mis Mai
- Traeth awyr uchel (siro-cwmwlws)
- cwmwl siro-stratws a'r lleuad yn y pellter
- Cymylau 'meirch y ddrycin' (cwmwlws)
- ffurfiad cwmwl stratocwmwlws dros ganolbarth Unol Daleithiau America
- Stratws (Stratus-Opacus-Uniformis)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Why are clouds white?". Met Office (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2026.
- ↑ "What causes precipitation to fall? | NASA Global Precipitation Measurement Mission". gpm.nasa.gov. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2026.
- ↑ "The Four Core Types of Clouds | National Oceanic and Atmospheric Administration". www.noaa.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2026.
- ↑ E.C. Barrett and C.K. Grant (1976). "The identification of cloud types in LANDSAT MSS images". NASA. Cyrchwyd 22 Awst 2012.
- ↑ World Meteorological Organization, gol. (2017). "Definitions, International Cloud Atlas". Cyrchwyd 30 Mawrth 2017.
- ↑ WMO. "Type I Veils". International Cloud Atlas (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-19.
- ↑ World Meteorological Organization, gol. (2017). "Upper atmospheric clouds, International Cloud Atlas". Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2017.
- ↑ de Valk, Paul; van Westhrenen, Rudolf; Carbajal Henken, Cintia (2010). "Automated CB and TCU detection using radar and satellite data: from research to application" (PDF). EUMETSAT. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 15 Medi 2011.
- ↑ Mainz, Johannes Gutenberg University. "Simulation of banner clouds |". Johannes Gutenberg University Mainz (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Kelvin-Helmholtz cloud". Met Office (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2026.
- ↑ WMO. "Accessory clouds". International Cloud Atlas (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Unusual cloud formations". Met Office (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2026.
- ↑ Huw H. Jones, cys. pers.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Canllaw gwylio cymylau yn Gymraeg gan y BBC (copi archif)
