Ffrynt
| Math | rhyngwyneb |
|---|---|
| Yn cynnwys | ffrynt oer, ffrynt gynnes, ffrynt achludol, dry line, stationary front |
| Dynodwyr | |
Ffin sydd yn gwahanu dau aergorff o wahanol ddwysedd yw ffrynt.
Gelwir ardal o wasgedd isel ble mae'r ffrynt gynnes ac oer yn ffurfio yn ddiwasgedd. Mae'r gwynt yn chwythu'n wrthglocwedd o amgylch diwasgedd. Ni cheir ffryntiau, na glaw, mewn ardal o wasgedd uchel gan fod yr aer yn suddo yn hytrach na chodi. Yma, mae'r gwynt yn chwythu gyda chyfeiriad y cloc. Mae antiseiclon yn enghraifft o wasgedd uchel.
Ar fapiau tywydd, dangosir gwasgedd gan isobarau, llinellau sydd yn ymuno pwyntiau o'r un wasgedd. Maent yn cychwyn ar wasgedd isel ac yn codi wrth symud allan o ganol y diwasgedd.
Wrth i ffrynt gynnes agosáu, mae'r cymylau yn tewychu ac yn disgyn, y gwyntoedd yn cryfhau, a gwasgedd yr aer yn gostwng. Ger y ffrynt gynnes mae'r tymheredd yn codi ac mae'n glawio. Yn y sector cynnes cawn dymereddau uwch, cymylau toredig, a chawodydd o law mân. Ger ffrynt oer, cawn wyntoedd cryf iawn a glaw trwm. Wrth i'r ffrynt fynd heibio, mae'r tywydd yn gwella a chawn gyfnodau heulog gyda gwyntoedd oer.
Ffurfir ffrynt achludol pan fo ffrynt oer yn teithio'n gyflymach na ffrynt gynnes. Mewn ffrynt achludol mae'r ffrynt gynnes a'r ffrynt oer yn cyfuno, a chawn dywydd glawiog.
Yr enw
[golygu | golygu cod]Rhoddai'r enw ffrynt ar y ffenomen dywyddol hon gan feteorolegwyr o Norwy yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mewn cymhariaeth â'r ffryntiau milwrol yn Ewrop.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Front (meteorology). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Mawrth 2020.