Ymosodiad Israel ar Rafah
Tanciau'r IDF yng nghroesfan Rafah ar gychwyn yr ymgyrch ymosodol (7 Mai 2024). | |
| Enghraifft o: | ymosodiad milwrol |
|---|---|
| Rhan o | goresgyniad Llain Gaza gan Israel |
| Lleoliad | Rafah |
| Yn cynnwys | Tel al-Sultan camp airstrike |
| Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
| Dynodwyr | |
Ymgyrch filwrol gan Israel yn ninas Rafah, yn ne Llain Gaza, yw ymgyrch ymosodol Rafah a lansiwyd ar 6 Mai 2024 fel rhan o oresgyniad y Llain yn ystod Rhyfel Gaza.
Cyn yr ymosodiad, llochesodd oddeutu 1.4 miliwn o Balesteiniaid a ddadleolwyd yn Rafah, yn sgil gorchmynion Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) i wacáu Llain Gaza, brwydro rhwng Israel ac Hamas, a chyrchoedd awyr gan luoedd Israel ers Hydref 2023. Yn Chwefror 2024, cyhoeddodd Israel ei bwriad i oresgyn Rafah er mwyn bwrw rhyfelwyr Hamas allan o'r ddinas.[1] Yn nechrau Mai, wrth i drafodaethau am gadoediad ddod i ddim, dechreuodd Israel baratoi am ymosodiad a gorchmynnodd wacâd dwyrain Rafah.[2][3] Ar 6 Mai, derbyniodd Hamas delerau cadoediad a gynigwyd gan lywodraethau'r Aifft a Chatar,[4][5] ond gwrthodwyd y cytundeb yn unfrydol gan gabinet rhyfel Israel am ei fod yn "bell o orchmynion angenrheidiol Israel". Mynegodd llywodraeth Israel felly y byddai'r ymgyrch filwrol yn Rafah yn mynd yn ei blaen.[6][7][8][9][10] Cynllun cyntaf yr IDF oedd i lansio chwiliad chwim a thrylwyr gyda dwy adran o'r fyddin, ond datganodd llywodraeth Unol Daleithiau America y byddai ymosodiad mawr o'r fath yn croesi "llinell goch" ac yn peryglu cefnogaeth gweinyddiaeth yr Arlywydd Joe Biden i ymdrech ryfel Israel. Gorfodwyd i Israel felly leddfu'r ymgyrch arfaethedig, gyda'r nod o gipio'r ffin rhwng Llain Gaza a'r Aifft, i rwystro smyglwyr arfau, ac i ddibynnu ar gyrchoedd dargedig ar y ddinas yn hytrach nag ymosodiad diarbed.[11]
Wedi i Israel wrthod cadoediad, lansiodd yr IDF gyrchoedd awyr ar Rafah, a goresgynnwyd cyrion y ddinas gan luoedd Israelaidd, gan gipio a chau'r groesfan rhwng Gaza a'r Aifft.[4][12][13] Dechreuodd yr IDF symud i mewn i ardaloedd poblog y ddinas ar 14 Mai.[14] Cyhoeddodd Israel na fyddai'r ymgyrch yn dod i ben oni bai am ddeoliad Hamas neu ryddhad y gwystlon Israelaidd yn Gaza.[13] Ar 24 Mai, gorchmynnodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol i Israel beidio â'i hymgyrch ymosodol yn ddi-oed,[15] dyfarniad a wrthodwyd gan Israel.
Gwaethygwyd y sefyllfa ddyngarol yn Rafah yn sylweddol o ganlyniad i ymosodiad Israel. Cafodd rhyw 950,000 o Balesteiniaid eu symud i ardaloedd a honnir eu bod yn anniogel ac yn brin o ddarpariaethau.[3][16] Lladdwyd bron 210 o Balesteiniaid ac anafwyd 280 yn ystod ymgyrch fomio Israel. Mae ysbytai wedi eu heffeithio gan gyrchoedd yr IDF a'r rhwystrau ar gyflenwadau.[17][18] Yn ogystal, mae'r ymgyrch ymosodol wedi achosi croesfannau Kerem Shalom a Rafah i gau dros dro, gan waethygu'r argyfwng dyngarol ar draws Gaza oll.[19]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2024-06-25 yn y Peiriant Wayback", The New York Times (10 Chwefror 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) Tzvi Joffre ac Yonah Jeremy Bob, "Archifwyd 2024-05-06 yn y Peiriant Wayback", The Jerusalem Post (6 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
- 1 2 (Saesneg) David Gritten, "Gaza war: Where has Israel told Rafah displaced to go?", BBC (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
- 1 2 (Saesneg) Sam Mednick, Josef Federman a Bassem Mroue, "Archifwyd 2024-05-06 yn y Peiriant Wayback", Associated Press (6 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) Barak Ravid, "Archifwyd 2024-05-27 yn y Peiriant Wayback", Axios (6 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2024-06-13 yn y Peiriant Wayback", The Times of Israel (10 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) Fares Alghoul, Dana Khraiche a Galit Altstein, "Archifwyd 2024-05-08 yn y Peiriant Wayback", Bloomberg (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) Samuel Osborne, "Archifwyd 2024-05-27 yn y Peiriant Wayback", Sky News (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2024-05-28 yn y Peiriant Wayback", Financial Times (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) Nataliya Vasilyeva, "Archifwyd 2024-06-25 yn y Peiriant Wayback", The Daily Telegraph (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) Michael R. Gordon a Dov Lieber, "Archifwyd 2024-07-05 yn y Peiriant Wayback", The Wall Street Journal (2 Mehefin 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) David Gritten, "Gaza: Israel takes Rafah crossing as truce talks continue", BBC (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
- 1 2 (Saesneg) Emanuel Fabian, "Archifwyd 2024-06-01 yn y Peiriant Wayback", The Times of Israel (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) Emanuel Fabian, "Archifwyd 2024-07-11 yn y Peiriant Wayback", The Times of Israel (15 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) Jeremy Sharon a Sam Sokol, "Archifwyd 2024-06-22 yn y Peiriant Wayback", The Times of Israel (24 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) Emanuel Fabian, "Archifwyd 2024-05-27 yn y Peiriant Wayback", The Times of Israel (20 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) Usaid Siddiqui, "Archifwyd 2024-06-22 yn y Peiriant Wayback", Al Jazeera (14 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Mai 2024.
- ↑ (Saesneg) Nagham Mohanna, Nada AlTaher a Holly Johnston, "Archifwyd 2024-05-28 yn y Peiriant Wayback", The National News (14 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2024.
- ↑ (Saesneg) Cassandra Vinograd, "Archifwyd 2024-07-01 yn y Peiriant Wayback", The New York Times (7 Mai 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mai 2024.