Simon Weston
Gwedd
| Simon Weston | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Awst 1961 Caerffili |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, milwr |
| Gwobr/au | OBE, CBE, General Service Medal, South Atlantic Medal, doethuriaeth er anrhydedd |
| Gwefan | http://www.simonweston.com/ |
Milwr o Gymru a ymladdodd yn Rhyfel y Falklands yw Simon Weston CBE (ganwyd 8 Awst 1961).[1] Ganed ef yn Nelson, Caerffili.
Ymunodd â'r Gwarchodlu Cymreig ym 1978 yn 16 oed. Gydag aelodau eraill o'i gatrawd fe'i anfonwyd i ymladd yn Rhyfel y Falklands (1982). Bu ar RFA Sir Galahad yn Bluff Cove ar 8 Mehefin 1982 pan ymosodwyd ar y llong gan awyrennau'r Ariannin. Rhoddwyd y llong ar dân. Lladdwyd 48 o ddynion a chafodd 97 o ddynion eu hanafu. Cafodd Weston ei losgi'n ddifrifol. Ar ôl blynyddoedd o lawdriniaethau, aeth ymlaen i wneud gwaith elusennol helaeth. Mae wedi ennill llawer o anrhydeddau am ei waith.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Terribly burned in the Falklands War, Simon Weston is 60 today". Lord Ashcroft (yn Saesneg). 8 Awst 2021. Cyrchwyd 8 Awst 2026.