Neidio i'r cynnwys

Melin drafod

Oddi ar Wicipedia
Melin drafod
Mathsefydliad ymchwil, carfan bwyso, sefydliad addysgol, sefydliad ymchwil Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebanti-think tank Edit this on Wikidata
Cynnyrchdeddfwriaeth Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/097zh edit this on wikidata
QuoraThinktanks edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Campws Prifysgol Stanford - Tŵr Hoover, canolfan yr Hoover Institution a sefydlwyd gan yr Arlywydd, Edgar Hoover yn 1919

Sefydliad yw melin drafod[1] sy'n cynnig cyngor a syniadau ar faterion gwleidyddol, economaidd, ecolegol, cymdeithasol neu filwrol.[2] Mae rhai yn annibynnol, mae gan eraill gysylltiadau agos â phleidiau gwleidyddol, grwpiau diddordeb neu lobïau busnes, sefydliadau academaidd. Fel arfer mae'r term hwn yn cyfeirio'n benodol at sefydliadau lle mae grŵp o ysgolheigion amlddisgyblaethol yn cynhyrchu dadansoddiadau ac argymhellion polisi.[3]

Sefydliadau preifat ydyn nhw fel arfer (yn aml ar ffurf sylfeini neu endidau dielw). Yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, mae yna rai sy'n ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth y wlad. Yn Ewrop, mae sefydliadau o'r fath i'w cael ond mae eu gallu i ddylanwadu ar wleidyddiaeth gwladwriaethau yn dal i fod ymhell o'r dylanwad sydd gan sefydliadau Americanaidd.

Pwrpas

[golygu | golygu cod]
Digwyddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad a drefnwyd ar y cyd gyda Sefydliad Materion Cymreig (Hydref 2014)
Digwyddiad Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a gynhehaliwyd gan y Cynulliad (fel y'i galwyd ar y pryd) ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Sefydliad Materion Cymreig, yn enghraifft o'r cydweithio a chydblethu ym maes polisi Cymru (Mai 2012)

Mae melinau trafod yn cyhoeddi erthyglau ac astudiaethau, a hyd yn oed yn drafftio deddfwriaeth ar faterion penodol o bolisi neu gymdeithas. Yna defnyddir y wybodaeth hon gan lywodraethau, busnesau, sefydliadau cyfryngau, mudiadau cymdeithasol neu grwpiau buddiant eraill.[4][5] Mae melinau trafod yn amrywio o'r rhai sy'n gysylltiedig â gweithgareddau academaidd neu ysgolheigaidd iawn i'r rhai sy'n amlwg yn ideolegol ac yn gwthio am bolisïau penodol, gydag ystod eang yn eu plith o ran ansawdd eu hymchwil. Mae cenedlaethau diweddarach o felinau trafod wedi tueddu i fod yn fwy ideolegol.[4] Dechreuodd melinau trafod modern fel ffenomen yn y Deyrnas Unedig yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20g, gyda'r rhan fwyaf o'r gweddill yn cael eu sefydlu mewn gwledydd Saesneg eu hiaith eraill.[4] Cyn 1945, roeddent yn tueddu i ganolbwyntio ar y materion economaidd sy'n gysylltiedig â diwydiannu a threfoli. Yn ystod y Rhyfel Oer, sefydlwyd llawer mwy o felinau meddwl Americanaidd a Gorllewinol eraill, a oedd yn aml yn llywio polisi Rhyfel Oer y llywodraeth.[4][6][5] Ers 1991, mae mwy o felinau trafod wedi'u sefydlu mewn rhannau o'r byd nad ydynt yn Orllewinol. Sefydlwyd mwy na hanner yr holl felinau trafod sy'n bodoli heddiw ar ôl 1980.[7]

Mae'r erthygl hon yn rhestru sefydliadau polisi byd-eang yn ôl categorïau cyfandirol ac yna is-gategorïau fesul gwlad o fewn yr ardaloedd hynny. Nid yw'r rhestrau hyn yn gynhwysfawr; mae o leiaf 11,175 o felinau trafod o gwmpas y byd.[8][9]

Melinau trafod Cymru

[golygu | golygu cod]
Uwchgynhadledd ar annibyniaeth a drefnwyd gan gorff y 'Melin Drafod', Abertawe 2023

Prin yw'r melinau trafod Cymreig a hynny, efallai'n adlewyrchiad o ddiffyg grym sydd wedi ei lleoli yng Nghymru a diffyg cyfalaf i dalu am waith ymchwil manwl.

  • Sefydliad Bevan - sefydlwyd 2001 i "gryfhau polisi cyhoeddus ar ôl datganoli." Mabwysiadwyd yr enw er cof am Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG, oherwydd ymrwymiad a rennir i gyfiawnder cymdeithasol, er bod y Sefydliad yn gwbl amhleidiol. [10]
  • Melin Drafod - sefydlwyd yn 2021 sy'n gorff er hyrwyddo syniadaeth ar bolisi i Gymru annibynnol.

Melinau trafod adnabyddus

[golygu | golygu cod]

Ceir melinau trafod ar draws y byd. Efallai mai rhai o'r rhai mwyaf adnabyddus a dylanwadol yw:

Unol Daleithiau

[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg mai'r Unol Daleithiau yw'r wladwriaeth lle mae melinau trafod yn cael y dylanwad mwyaf. Rhaid dyfynnu'r Council on Foreign Relations, The Project for the New American Century, Cato Institute, Hoover Institution, Brookings Institution, RAND Corporation neu American Enterprise Institute oherwydd eu pwysigrwydd.

Y Deyrnas Unedig

[golygu | golygu cod]

Mae sefyllfa Prydain yn debyg i un yr Unol Daleithiau o safbwynt melinau trafod dylanwadol. Mae'r rhai yn cynnwys: Adam Smith Institute (dde); Institute for Public Policy Research (chwith canol); Center for Policy Studies.

Ffrainc

[golygu | golygu cod]

Melinau trafod mwyaf adnabyddus Ffrainc yw: Institut Montaigne; yr Europeaneiddwyr, Fondation Robert Schuman; Fondation Concorde; Institut Targot; arbenigwyr geoeconomaidd, Institut Choiseul; a Fondation Copernicus, sefydliad gwrth-globaleiddio.[angen ffynhonnell]

Ynghlwm â phleidiau gwleidyddol Ffrainc, ceir melinau trafod ynghlwm â'r UMP, Plaid Gomiwnyddol Ffrainc, a'r PSF.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Think tank". Termau Cymru. Cyrchwyd 16 Mai 2023.
  2. ↑ Fang, Lee (15 Medi 2021). "Intelligence Contract Funneled to Pro-War Think Tank Establishment". The Intercept (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Hydref 2021.
  3. ↑ McGann, James G.; Weaver, Robert Kent (1 January 2002). Think Tanks and Civil Societies: Catalysts for Ideas and Action (yn Saesneg). Transaction Publishers. t. 51.
  4. 1 2 3 4 Fischer, Frank; Miller, Gerald J. (21 December 2006). "Public Policy Analysis and Think Tanks, by Diane Stone". Handbook of Public Policy Analysis: Theory, Politics, and Methods (yn Saesneg). CRC Press. tt. 149–157.
  5. 1 2 Selee, Andrew Dan (31 Gorffennaf 2013). What Should Think Tanks Do?: A Strategic Guide to Policy Impact (yn Saesneg). Stanford University Press. t. 41. ISBN 978-0-8047-8929-5.
  6. ↑ Roberts, Priscilla (1 Rhagfyr 2015). "A century of international affairs think tanks in historical perspective" (yn en). International Journal 70 (4): 535–555. doi:10.1177/0020702015590591. ISSN 0020-7020.
  7. ↑ McGann, James. "Think Tanks and the Transnationalization of Foreign Policy". Foreign Policy Research Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2011.
  8. ↑ G. McGann, James (22 January 2014). "2013 GLOBAL GO TO THINK TANK INDEX REPORT" (PDF). University of Pennsylvania. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 January 2016.
  9. ↑ G. McGann, James (28 Ionawr 2022). "2020 Global Go To Think Tank Index Report". University of Pennsylvania. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-22. Cyrchwyd 28 Medi 2022.
  10. ↑ "About us". Gwefan y Bevan Foundation. Cyrchwyd 16 Mai 2023.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.