Marwolaeth yr Asyn o Fflint
| Enghraifft o: | rhaglen deledu, rhaglen radio |
|---|---|
| Golygydd | Gwenlyn Parry |
| Awdur | Siôn Eirian |
| Gwlad | |
| Dechreuwyd | 1 Mawrth 1981 |
| Daeth i ben | 10 Tachwedd 1983 |
| Genre | drama deledu, drama radio |
| Cyfarwyddwr/wyr | Dafydd Huw Williams, Myrfyn Owen |
| Cynhyrchydd/wyr | Myrfyn Owen, Dafydd Huw Williams |
| Cwmni cynhyrchu | BBC Cymru |
| Iaith wreiddiol | Cymraeg |
| Sinematograffydd | Russ Walker, Peter Robbins |
| Dynodwyr | |

Drama radio Gymraeg a gomisiynwyd gan BBC Radio Cymru ym 1981 yw Marwolaeth yr Asyn o Fflint gan Siôn Eirian. Cyfansoddwyd y ddrama yn nhafodiaith Sir y Fflint ac mae'n adrodd hanes llanc ifanc o'r enw 'Keith' sy'n cael ei orfodi i ymuno â'r Fyddin Brydeinig ar ôl ei ddedfrydu'n euog o dorri'r gyfraith. Mae'n cael ei anfon i wasanaethu yng Ngogledd Iwerddon pan oedd y gwrthdaro yn ei anterth ar gychwyn y 1980au. Addaswyd y ddrama ar gyfer y teledu a'i darlledu ar S4C ar y 10 Tachwedd 1983, gyda'r un cast. Cadfan Roberts oedd yn portreadu'r prif gymeriad, a thrwy'r rhaglenni yma y daeth yn enw a wyneb cyfarwydd yng Nghymru. Roedd gweddill y cast i gyd o Ddyffryn Clwyd neu ardal Rhosllannerchrugog.[1]
Cast
[golygu | golygu cod]- Cadfan Roberts - Keith Henson
- Myfanwy Talog - Mrs Hanson, ei fam
- Bethan Jones - Ann Henson, ei chwaer
- Tom Richmond - Roy, ei gyfaill
- Eluned Jones - Lun, ei gariad
- Julie Richmond - Janet
- Fraser Cains - Mr Harriman
- Richard Berry - Milwr
Cynnwys
[golygu | golygu cod]
Myfyrdod milwr o Gymru sy'n gwasanaethu'r Fyddin Brydeinig yng Ngogledd Iwerddon ar gychwyn y 1980au yw'r ddrama, sef Keith Henson, sy'n addunedu ar gychwyn y rhaglen "os dwi'n mynd [marw], dwi'n mynd fatha dyn".[1]

Mae bywyd Keith yng Nghymru yn llwm, ynghanol môr o ddiweithdra, lle mae "tri allan o bob 10" allan o waith. Mae ei gyfaill, 'Bryn' yn lladd ei hun, oherwydd annobaith ei fywyd, gyda'r gwaith haearn lleol wedi cau. Poena teulu Keith amdano, gyda'r fam a'i chwaer yn ceisio ei annog i ganfod gwaith.
Wedi cyflawni trosedd, a'i ddedfrydu yn y Llys, mae Keith yn dewis i ymuno â'r Fyddin i osgoi carchar, gyda'r agwedd, "ma' rywbeth yn well na bod ar y dôl".
Mae amwysder ar ddiwedd y ddrama os ydi Keith yn cael ei ladd tra'n gwasanaethu yn Derry.
Daw teitl y ddrama o'r gân werin Gymraeg draddodiadol "Yr Asyn a fu farw wrth gario glo i'r Fflint" a defnyddiwyd y gân yn y cynhyrchiad radio gwreiddiol. Roedd delweddau teitlau agoriadol y ddrama deledu yn gyfuniad o adroddiadau newyddion o'r helyntion treisiol yng Ngogledd Iwerddon ac adlewyrchiadau o'r 1980au.
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Comisiynwyd y ddrama gan BBC Radio Cymru ar gyfer ei darlledu ar Ddydd Gŵyl Dewi 1981 gyda Dafydd Huw Williams yn cynhyrchu a chyfarwyddo.[1]
Addaswyd y ddrama ar gyfer S4C, a'i darlledu ar 10 Tachwedd 1983. Cafodd ei ffilmio'n rhannol mewn stiwdio ac ar leoliad.