Kalahari
Gwedd
| Math | anialwch, deserts and xeric shrublands, savanna |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Kgalagadi Transfrontier Park |
| Gwlad | Botswana, Namibia, Angola, De Affrica |
| Arwynebedd | 930,000 km² |
| Uwch y môr | 1,168 metr |
| Gerllaw | Afon Oren |
| Cyfesurynnau | 23°S 22°E |
| Hyd | 4,000 cilometr |
![]() | |
Anialwch yn neheudir Affrica yw'r Kalahari, yn ymestyn tros 900,000 km² (362,500 mi²), ar draws rhan helaeth o Botswana a rhannau o Namibia a De Affrica. Er ei fod yn anialwch, mae tyfiant sylweddol yno yn dilyn glawogydd.
Y Kalahari yw anialwch mwyaf deheuol Affrica. Mewn rhai rhannau, ceir hyd at 250 mm o law y flwyddyn, ac ni ellir ystyried y rhannau hyn yn wir anialwch. Fodd bynnag, mae'n wir anialwch yn y de-orllewin, lle mae llai na 175 mm o law y flwyddyn. Yn yr haf; ceir tymheredd rhwng 20 a 45 °C. yma.
Poblogaeth frodorol y Kalahari yw'r San, oedd yn draddodiadol yn byw bywyd hela a chasglu. Ceir hefyd rhywfaint o Tswana, Kgalagadi, Herero, ac Ewropeaid.

