Irisarri
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 870 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 26.39 km² |
| Uwch y môr | 225 metr, 149 metr, 839 metr, 255 metr |
| Yn ffinio gyda | Hélette, Iholdy, Jaxu, Macaye, Mendionde, Ossès, Suhescun |
| Cyfesurynnau | 43.2575°N 1.2325°W |
| Cod post | 64780 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Irissarry |
![]() | |
Mae Irisarri ([ iʁ̞is̺aʁi]) yn bentref ac yn fwrdeistref yng Ngwlad y Basg, yn rhanbarth Nafarroa Beherea.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Amgylchedd naturiol
[golygu | golygu cod]Mae afon Laka, sy'n llifo i afon Errobi, yn mynd trwy'r pentref. Hefyd rhai o lednentydd afon Laka: afonydd Elhur, Oihanhandia, Gatarri a Larhan.
Bwrdeistrefi sy'n ffinio ag Irisarri
[golygu | golygu cod]- Heleta yn y gogledd
- Ortzaize yn y gorllewin
- Iholdi a Suhuskune yn y dwyrain
Tai a chymdogaethau
[golygu | golygu cod]- Baigura
- Pagotzona
- Basaburu
- Otsateheta
- Etxalgi
- Oihanhandi
- Plaza
Hanes
[golygu | golygu cod]Daeth pentref Irisarri i fodolaeth wrth adeiladu'r Ospitalea a sefydlwyd yn y 12g, tua'r flwyddyn 1150, gan Farchogion yr Ysbyty. Tua'r flwyddyn 1530 daeth dan reolaeth Urdd Malta.
Yn 1350, yr oedd 23 o dai yn Irisarri, a phob un ond dau yn perthyn i'r Marchogion, gyda'u preswylwyr yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol.
Yn 1607, lansiodd Martin de Larrea, arglwydd Irisarri, y gwaith o ailadeiladu’r Ospitalea, gan greu un o adeiladau harddaf Nafarroa Beherea. Adnewyddwyd yr ystafell weddi hefyd a'i throi'n eglwys y pentref. Trawsnewidiwyd yr eglwys yn 1860.
Treftadaeth
[golygu | golygu cod]Mae nifer o adeiladau i'w gweld yn y pentref, llawer ohonynt o'r 17gDyma rai adeiladau pwysig:
- Mae bryngaer ar fynydd Baigura uwchben y pentref.
- Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr yw eglwys blwyf Irisarri, mae'r elfennau hynaf o'r 15g a'r 16g.
- Yr Ospitalea, gweler uchod. Mae Canolfan Addysg Treftadaeth ynddi bellach.
- Croes Irisarri, heneb ger yr Ospitalea
- Fferm Bidegaina, o'r 17g
- Fferm Zaldunbidea.
- Palas Gazteluberria.
- Fferm Iturraldea, o'r 18g
Economi
[golygu | golygu cod]Mae economi'r ardal yn seiliedig ar amaethyddiaeth. Roedd y ffair hyrddod a oedd yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn y dref yn boblogaidd iawn.[1]
Demograffeg
[golygu | golygu cod]
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae'r pentref wedi'i leoli ar y ffordd Errobi, amrywiad o Ffordd Sant Iago. Defnyddiwyd y llwybr hwn gan bererinion i ar eu ffordd o o Baiona cyn croesi'r Pyreneau o Donibane Garazi.
Oriel luniau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Philippe Veyrin, Les Basques,Arthaud 1975. 44. orrialdea
