Guwahati
Gwedd
| Math | y ddinas fwyaf, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,116,267 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 216 km² |
| Uwch y môr | 51 metr |
| Cyfesurynnau | 26.180588°N 91.750238°E |
| Cod post | 781001 |
![]() | |

Prifddinas talaith Assam yng ngogledd-ddwyrain India yw Guwahati (ffurfiau amgen: Gauhati, Gawahati). Mae'n gorwedd ar lan Afon Brahmaputra. Ei hen enw oedd Pragjyotishpura a cheir cyfeiriad ati yn y Mahabharata. Heddiw mae'n ganolfan ranbarthol bwysig a amgylchynnir gan nifer o gerddi te. Mae'r diwydiant olew yn bwysig hefyd. Ceir nifer o demlau Hindŵaidd yn y ddinas. Mae'n gartref hefyd i Amgueddfa Talaith Assam.
Mae'r rheilffordd yn cysylltu Guwahati a dinasoedd New Jalpaiguri a Calcutta yng Ngorllewin Bengal.
