BMW
| Enghraifft o: | menter, cynhyrchydd cerbydau, motorcycle manufacturer, cwmni cyhoeddus |
|---|---|
| Rhan o | DAX, Euro Stoxx 50, DivDAX, DivDAX, DivDAX, CDAX |
| Dechrau/Sefydlu | 7 Mawrth 1916 |
| Perchennog | Stefan Quandt, Susanne Klatten, BlackRock |
| Yn cynnwys | Husqvarna Motorcycles |
| Prif weithredwr | Oliver Zipse |
| Sylfaenydd | Camillo Castiglioni, Karl Rapp, Franz Josef Popp, Gustav Otto |
| Aelod o'r canlynol | Verband der Bayerischen Metall- und Elektro-Industrie, Stiftung Bildungspakt Bayern, Wi-Fi Alliance, German Road Safety Council, Wirtschaftsforum der SPD e.V., Verband der Automobilindustrie, Zentralverband Deutsches Kfz-Gewerbe e.V., Deutsches Verkehrsforum, Latin America Association, Economic Council Germany, British Chamber of Commerce in Germany, Deutsches Aktieninstitut, Deutsches Institut für Compliance, Academi Gwyddoniaeth a Pheirianneg yr Almaen, Deutscher Wasserstoff-Verband, Deutsches Rechnungslegungs Standards Committee, Association des Constructeurs Européens d'Automobiles, 5G Automotive Association, vbw - Vereinigung der Bayerischen Wirtschaft e. V., German Council on Foreign Relations, Bundesverband der Deutschen Industrie e.V., Wirtschaftsbeirat Bayern, bitkom, Zentraler Immobilien Ausschuss, Atlantik-Brücke, diversity charter, DIN Deutsches Institut für Normung e. V., VIK Verband der Industriellen Energie- und Kraftwirtschaft e. V., American Chamber of Commerce in Germany e.V., BME, Deutsche Verkehrswacht, econsense - Forum Nachhaltige Entwicklung der Deutschen Wirtschaft, Q124393312, VDE - Verband der Elektrotechnik Elektronik Informationstechnik e.V., Wirtschaftskoalition Daten & Digitales |
| Gweithwyr | 149,475 |
| Isgwmni/au | Rolls-Royce Motor Cars, BMW Group Plant Dingolfing, Rolls-Royce Deutschland, BMW Group Classic, BMW M, Land Rover, BMW South Africa, BMW-Flugmotorenbau, BMW i, Alpina |
| Ffurf gyfreithiol | Aktiengesellschaft |
| Cynnyrch | car, beic modur, Car trydan |
| Incwm | 13,999,000,000 Ewro |
| Asedau | 228,034,000,000 Ewro |
| Pencadlys | München |
| Gwladwriaeth | Yr Almaen |
| Gwefan | https://www.bmw.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/017yh |
| Quora | Bmw-car-company |
Talfyriad ydy BMW am Bayerische Motoren Werke AG (ynganiad Almaeneg: [baˈjɛɐ̯ɪʃə mɔˈtɔʁn̩ ˈvɛɐ̯kə] (
gwrando); yr Almaeneg am Bavarian Motor Works), sy'n gwmni ceir a beiciau modur sydd a'i bencadlys yn München, Bafaria, yr Almaen. Mae BMW hefyd yn berchen ac yn gyfrifol am gynhyrchu mathau o geir o dan yr enwau Mini a BMW hefyd yw rhiant gwmni Rolls-Royce Motor Cars. Mae'n cynhyrchu beiciau modur o dan yr enw 'BMW Motorrad' a cheir trydan dan yr is-frand BMW i e.e. BMW i3.
Mae'n un o brif gwmnïau ceir moethus y byd.[1] Caiff ei restru ar yr 'Euro Stoxx 50' sef cyfnewidfa stoc.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn 1917, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn unol â thermau Cytundeb Versailles, gorfodwyd y cwmni adeiladu awyrennau 'Rapp Motorenwerke' i beidio â chynhyrchu rhagor o awyrennau, a gorfodwyd nhw i droi at feiciau modur (1923), ceir (1928–29) a cherbydau eraill.[3][4]
Y car cyntaf i BMW ei gynhyrchu oedd y Dixi, a sylfaenwyd ar yr Austin 7, ar drwyddedwyd gan Gwmni Moduron Austin a oedd wedi'i leoli yn Birmingham, Lloegr.
Erbyn y 1930au roedd y cwmni wedi ailddechrau cynhyrchu awyrennau ar gyfer y Luftwaffe; yn wir, cynhyrchwyd peiriant ar gyfer awyrennau (y BMW IIIa) mor fuan a 1918. Roedd llawer iawn o weithwyr di-dâl yn eu ffatri yn München, gan gynnwys carcharorion a sifiliaid o wledydd eraill.
Yn 1958, yn hytrach na mynd yn fethdalwyr prynnwyd yr hawl i greu modelau o'r car Eidalaidd 'Iso Isetta' ac ailwampiwyd un o'u peiriannau gyrru beiciau modur ar ei gyfer.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Best Global Brands – 2014 Rankings". Interbrand. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2015. Cyrchwyd 26 Mawrth 2015.
- ↑ "Cyfnewidfa Stoc Frankfurt Stock". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-08. Cyrchwyd 2016-01-28.
- ↑ Oppat, Kay (2008). Disseminative Capabilities: A Case Study of Collaborative Product Development in the Automotive. Gabler Verlag.
- ↑ Kiley, David (2004). Driven: inside BMW, the most admired car company in the world. John Wiley and Sons.