Atlas (mytholeg)
Gwedd
| Enghraifft o: | Titan |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0crmy |
Ym mytholeg Roeg, roedd Atlas (Hen Roeg: Ἄτλας) yn un o'r Titaniaid, yn fab i'r Titan Iapetus ac Asia neu Klyménē (Κλυμένη), un o'r Oceanides. Roedd yn frawd i Promethëws, Epimethëws a Menoetius.
Ochrodd ef a'i frawd Menoetius gyda'r Titaniaid yn eu rhyfel yn erbyn y Deuddeg Olympiad, y Titanomachia. Cosbwyd Atlas gan Zews, a wnaeth iddo sefyll ar ochr orllewinol y ddaear, Gaia, yn dal Ouranos, yr awyr, i fyny.