Academi Celfyddydau Theatr Mountview
| Enghraifft o: | ysgol ddrama |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1945 |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Llundain |
| Gwefan | http://www.mountview.org.uk/ |
| Dynodwyr | |
| Quora | Mountview-academy-of-theatre-arts |
Ysgol ddrama yn Peckham, de Llundain yw Academi Celfyddydau Theatr Mountview [Saesneg: Mountview Academy of Theatre Arts] a elwid gynt yn Ysgol Theatr Mountview, a sefydlwyd ym 1945.[1] Mae Academi Mountview yn darparu hyfforddiant galwedigaethol arbenigol mewn actio, theatr gerdd ac addysg gerddorol, yn ogystal â chelfyddydau cynhyrchu ac arferion creadigol y theatr. Llywydd yr ysgol yw'r Fonesig Judi Dench, a'r Pennaeth yw Sally Ann Gritton.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Mountview yn Crouch End, gogledd Llundain, ym 1945 gan Peter Coxhead a Ralph Nossek fel "The Mountview Theatre Club", cwmni repertoire amatur yn llwyfannu cynhyrchiad newydd am rediad chwe diwrnod bob yn ail wythnos.[2]
Yn gynnar ym 1946, pan yn 21 oed, benthycodd Coxhead £2,300 i brynu prydles Tŷ Cecile, eiddo mawr adfeiliedig yn Crouch End.[1] Roedd y datblygiad yn Nhŷ Cecile yn cynnwys trosi campfa i fod yn Theatr Mountview.[3]
Agorodd Theatr Mountview yn swyddogol ym mis Tachwedd 1947 gyda chynhyrchiad o The Importance of Being Earnest.[1] Cyflwynodd y theatr un ddrama bob mis tan 1949, ac wedi hynny prynodd Coxhead yr adeilad yn llwyr gan y lesddeiliaid. Am y 25 mlynedd nesaf, llwyfannodd y theatr gynhyrchiad newydd bob pythefnos i dair wythnos. Aeth Ralph Nossek ymlaen i ddilyn gyrfa actio broffesiynol ym 1955 a barhaodd am 56 mlynedd.
Cyrsiau
[golygu | golygu cod]Cyflwynwyd cyrsiau actio a hyfforddiant sgiliau theatr technegol yn rhan-amser o 1958 pan gydnabuwyd Ysgol Theatr Mountview yn ffurfiol o ran enw. Ei llywydd cyntaf oedd George Norman, gyda Coxhead yn brifathro iddo. Parhaodd hyn am y deng mlynedd nesaf.
Ym 1969 dechreuodd yr ysgol gyrsiau drama llawn amser. Ym 1971 adeiladwyd ail ofod perfformio sef Theatr Judi Dench. Roedd yna hefyd 10 stiwdio weithredol ar gyfer myfyrwyr actio, tri ar gyfer myfyrwyr technegol a chwpwrdd dillad gyda mwy na 15,000 o wisgoedd. Erbyn 1985 roedd yr ysgol wedi prydlesu safle ychwanegol yn Wood Green, a gafodd yr enw Stiwdios Coffa Syr Ralph Richardson.
Ymddeolodd Coxhead fel prifathro ym 1996; cafodd ei ddisodli gan Paul Clements, cyn gyfarwyddwr drama yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru . Daeth Coxhead yn gadeirydd a phrif weithredwr bwrdd yr ysgol tan 2000, pan newidiodd Ysgol Theatr Mountview ei henw i Academi Celfyddydau Theatr Mountview. Yn 2001, penodwyd Coxhead yn MBE am Wasanaethau i'r Celfyddydau. Bu farw yn 2004, ar ôl 59 mlynedd o ymwneud â'r ysgol.[1]
Adleoli
[golygu | golygu cod]Yn 2011, cyhoeddodd pennaeth Mountview, Sue Robertson, gynlluniau i adleoli i ran o Neuadd y Dref Hornsey yn Crouch End, tafliad carreg o Crouch Hill lle cafodd ei sefydlu, gan agor yno ar gyfer blwyddyn academaidd 2014–15. Methodd y cynllun, ac yn 2016 derbyniodd Mountview ganiatâd cynllunio ar gyfer safle newydd yn Peckham, de-ddwyrain Llundain.[4] Agorwyd yr adeilad newydd ym mis Medi 2018.
Cyrsiau llawn amser
[golygu | golygu cod]- Cwrs sylfaen mewn actio
- Cwrs sylfaen mewn theatr gerdd
- Cwrs sylfaen mewn theatr gerdd – Manceinion
- BA Anrh mewn perfformio – actio
- BA Anrh mewn perfformio – cerddoriaeth
- BA Anrh mewn perfformio – theatr gerdd
- FdA / BA Anrh mewn rheoli llwyfan
- FdA / BA Anrhydedd mewn cynhyrchu technegol
- MA mewn perfformio – actio
- MA mewn perfformio – theatr gerdd
- MA mewn cynhyrchu creadigol
- MA mewn cyfarwyddo cerddorol
- MA mewn cyfarwyddo theatr
- MA mewn ymarfer theatr safle-benodol
- MA mewn theatr ar gyfer y gymuned ac addysg
- MFA mewn ymarfer agosatrwydd
- Diploma Ôl-raddedig mewn rheoli llwyfan a chynhyrchu
Cyn-fyfyrwyr nodedig ddethol
[golygu | golygu cod]- Julie Atherton
- Glynis Barber
- Brendan Coyle
- Edward Hall
- Amanda Holden
- Eddie Marsan
- Ken Stott
- Giles Terera
- Ken Stott
O Gymru
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 4 Clements, Paul; Yvonne I’Anson (15 Gorffennaf 2004). "Obituaries | Peter Coxhead". The Stage. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 November 2016. Cyrchwyd 24 Hydref 2024.
- ↑ Mountview Academy of Theatre Arts 2009.
- ↑ "Peter Coxhead". The Daily Telegraph Newspaper. London, England. 14 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd 5 Medi 2019.
- ↑ "Mountview gain planning permission for Peckham move - WhatsOnStage.com". 5 Hydref 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Awst 2017. Cyrchwyd 14 Awst 2017.